Marcel Duchamp

Marcel Duchamp
GanwydHenri-Robert-Marcel Duchamp Edit this on Wikidata
28 Gorffennaf 1887 Edit this on Wikidata
Blainville-Crevon Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 1968 Edit this on Wikidata
Neuilly-sur-Seine Edit this on Wikidata
Man preswylMünchen, Dinas Efrog Newydd, Buenos Aires, Rouen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, chwaraewr gwyddbwyll, arlunydd, cerflunydd, ffotograffydd, bardd, llyfrgellydd, cynllunydd, arlunydd, artist, cyfarwyddwr ffilm, athronydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, artist cydosodiad Edit this on Wikidata
Blodeuodd1965 Edit this on Wikidata
Adnabyddus amÉtant donnés, L.H.O.O.Q., Nude Descending a Staircase, No. 2 Edit this on Wikidata
Arddullpaentio, objet trouvé, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, celf gysyniadol, celf ffigurol Edit this on Wikidata
MudiadDada, Swrealaeth, celf gysyniadol Edit this on Wikidata
TadJustin-Isidore Eugène Duchamp Edit this on Wikidata
MamLucie Duchamp Edit this on Wikidata
PriodTeeny Matisse, Lydie Sarazin-Levassor Edit this on Wikidata
PartnerGabrièle Buffet-Picabia, Maria Martins Edit this on Wikidata
PlantYo Savy Edit this on Wikidata
PerthnasauÉmile Frédéric Nicolle Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonFfrainc Edit this on Wikidata

Arlunydd, cerflunydd, llenor a chwaraewr gwyddbwyll o Ffrainc a'r Unol Daleithiau oedd Marcel Duchamp (28 Gorffennaf 18872 Hydref 1968). Un o arloeswyr pwysicaf celfyddyd fodern hanner cyntaf yr 20g, yn gysylltiedig gyda Dada, Dyfodoliaeth (Futurism), Swrealaeth a Chelf Ddamcaniaethol (conceptual art).[1][2][3]

Gyda Pablo Picasso ac Henri Matisse mae Duchamp yn cael ei gyfrif fel un o'r tri artist arloesol a ddiffiniodd y newidiadau chwyldroadol yn y byd celf yn ystod degawdau cyntaf yr 20g. [4][5][6][7]

Er dim mor enwog â Picasso, bu gwaith arloesol Duchamp yn hynod o bwysig i gelfyddyd avant garde. Gwrthododd Duchamp waith Matisse a llawer o arlunwyr eraill fel rhywbeth a oedd ond ar gyfer y llygaid yn lle'r meddwl.[8]

Bywyd cynnar

Brodyr Duchamp: Marcel, Jacques Villon a Raymond Duchamp-Villon yn nghardd stiwdio Jacques Villon, 1914

Ganwyd yn Blainville-Crevon, Normandi, Ffrainc. Yn fab i beintiwr, mewn teulu diwylliedig a oedd yn arfer darlunio, darllen a chwarae cerddoriaeth a gwyddbwyll gyda'i gilydd. O saith plentyn y teulu bu farw un yn ifanc ac fe ddaeth bedwar arall yn arlunwyr llwyddiannus.

Enillodd wobrau am fathemateg a chelf tra'n ysgol. Dysgodd technegau arlunio o dan athro a geisiodd ei ddylanwadu i ffwrdd o Argraffiadaeth (Impressionism) a chelfydd avant garde arall.

Astuddiodd mewn coleg celf ym Mharis rhwng 1904 a 1905 ond roedd well ganddo chwarae biliards na fynychu’r dosbarthiadau. Yn ystod y cyfnod yma fe werthodd gartwnau a oedd yn dangos ei hiwmor digywilydd. Bu llawer o'r cartwnau yn chwarae gweledol ar eiriau, bu'r chwarae rhwng symbolau a geiriau'n amlwg yn ei waith ddiweddarach. Yn dilyn ei wasanaeth milwrol fe weithiodd i argraffydd yn Rouen ble dysgodd teipograffi a sgiliau argraffu, rhywbeth a ddefnyddiodd yn nes ymlaen.

Diolch i'w frawd Jaques Villon a oedd yn aelod o'r Académie royale de peinture et de sculpture dylanwadol fe gafodd waith Duchamp ei gynnwys mewn arddangosfeydd pwysig ym 1908 a ddaeth yn gyfaill gyda'r arlunydd Francis Picabia a'i gyflwynodd i fywyd crand a cheir cyflym. Ym 1911, yng nghartref ei frawd Jaques, cynhaliwyd sesiynau trafod gydag arlunwyr Ciwbaidd yn cynnwys Robert Delaunay, Fernand Léger a Jean Metzinger. Er i Duchamp peidio ag ymuno llawer yn y sgyrsiau, fe ddechreuodd ddefnyddio arddull Ciwbaidd yn ei waith ond yn hefyd yn ceisio cyfleu symudiad.

Gwaith cynnar

Gwaith nodweddiadol cyntaf Duchamp oedd Nu descendant un escalier, 1912, sef peintiad o berson noeth yn cerdded i lawr grysau. Mae'r darlun yn cyfleu symudiad mecanyddol y ffigwr gan gyfuno elfennau tameidiog Ciwbiaeth a symudiad deinamig Dyfodoliaeth (Futurism). Cafodd y gwaith ei ddylanwadu gan waith ffotograffig arloesol cynnar, a oedd am y tro cyntaf, yn gallu dangos symudiadau wedi'u dal yn gwbl llonydd. Yn ddiweddarach ym 1912 fe beintiodd ei ddarlun olaf i gynnwys elfennau Ciwbiaeth ac yn araf trodd i arddull mwy technegol.

Ym 1913, fe ddechreuodd waith fel lyfrgellydd er mwyn cael cyflog byw ac i ganolbwyntio ar ei astudiaethau a oedd yn gyfuniadau o gelfyddyd a gwyddoniaeth.

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf fe lwyddodd osgoi gael ei recriwtio i'r fyddin ac yn y flwyddyn canlynol symudodd i'r Unol Daleithiau. Er mawr ei syndod, fe ddarganfuwyd ei fod yn 'celebrity' wrth gyrraedd Efrog Newydd ble ddaeth yn gyfaill gyda'r ffotograffydd Man Ray ac yn denu clych o gefnogwyr cyfoethog.[9] Gyda Man Ray a'r patron Katherine Dreier fe sefydlodd y Société Anonyme ym 1920 yn casglu ac yn deilio gyda gweithiau ac yn arddangos celf trwy'r 1930au.

Dada a chelf barod (Readymades)

Fountaine (Pistyll), Marcel Duchamp, 1917

Roedd Dada yn fudiad gelf Ewropead a sefydlwyd yn Zürich, y Swistir ym 1916 gan ledu i Berlin ac Efrog Newydd yn ddiweddarach.[10] Tyfodd syniadau Dada fel ymateb i erchylltra'r Rhyfel Byd Cyntaf wrth iddi ymddangos bod y byd wedi mynd o'i gof. Ceisiodd arlunwyr a beirdd yn gysylltiedig â'r clwb nos Cabaret Voltaire droi synnwyr a rhesymeg wyneb i waered i herio 'synnwyr cyffredin' a chonfensiwn wrth greu gwaith a pherfformiadau a oedd yn ymddangos yn lol a gwallgof.

Hugo Ball yn perfformio yn y clwb Cabaret Voltaire

Fe denodd y fudiad arlunwyr a llenorion ifanc, galluog ac fe ledodd waith a dylanwad Dada o'r celfyddydau weledol a pherfformio i lenyddiaeth, barddoniaeth a theatr. Ysgrifennwyd y grŵp maniffestos a datblygwyd theorïau radicalaidd, wrth sefydliadol.

Cyfraniad mwyaf adnabyddus Duchamp i Dada oedd ei ymgais i gynnwys wrinal a brynwyd mewn siop plymwr, a lofnododd gyda'r enw 'R. Mutt', fel cerflun mewn arddangosfa gelf pwysig ym 1917. Gwrthodwyd y 'cerflun' am iddo 'beidio bod yn gelf'. Union bwriad Duchamp oedd i brofocio, greu helynt ac i herio'r syniadau confensiynol o beth yw gelf, pwy sydd yn penderfynu ei gwerth a'i phisiau.[11]

Wrth i Duchamp symud i ffwrdd o beintio ar gynfas arferai Duchamp cyflwyno pethau pob dydd fel olwyn beic neud rac dal boteli gwin fel darnau o gelf. Mewn cyfweliad teledu BBC gyda Joan Bakewell ym 1966 dywedodd:[12]

My idea was to choose an object that wouldn't attract me, either by its beauty or by its ugliness. To find a point of indifference in my looking at it, you see.

Ym 1919 creodd barodi o'r Mona Lisa trwy brynu copi masnachol rhad o siop a'i arwyddo gyda'r llythrennau L.H.O.O.Q. - a oedd yn chwarae ar eiriau, mae'r llythrennau'n swnio fel y geiriau Ffrangeng "Elle a chaud au cul". (Mae ganddi dîn boeth).[13]

Fe gollodd Duchamp ddiddordeb yn Dada pan ddychwelodd i Baris ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gan unwaith eto symudodd ymlaen i feysydd newydd.

Y Gwydr Mawr

Marcel Duchamp fel ei alter-ego Rrose Sélavy

Rhwng 1915 a 1923 fe weithiodd ar Y briodferch wedi'i thynnu'n noeth gan ei hen lanciau, Hyd yn oed (Y Gwydr Mawr) -teitl gwreiddiol La Mariée mise à nu par ses célibataires, même (Le Grand Verre). Gwaith cymhleth a wnaethpwyd o ddau ddarn o wydr mawr gydag elfennau eraill fel wifr ffiws a llwch, pethau wedi'u darganfod a darnau o astudiaethau llafurus. Cyhoeddodd nodiau Y Bocs Gwyrdd i gyd fynd a'r profiad gweledol er bod y nodiadau'n ychwanegu at y cymhlethdod yn hytrach na'i egluro.

Cyhoeddodd Duchamp fod y gwaith 'heb ei orffen' ym 1923. Ar y ffordd adref o'i ymddangosiad gyntaf fe gafodd y gwydr ei gracio, Duchamp yn derbyn yr elfennau newydd fel cyfraniad i'r darn yn hytrach na difrod.

Gwaith cinetig

Gweler diddordeb Duchamp yn waith cinetig (symudiad) yn ei nodiadau cynnar ar gyfer Y Gwydr Mawr. Ym 1920 gyda chymorth ei ffrind Man Ray creuwyd cerflun gydag elfennau'n symud gyda chymorth modur.

Ar ôl iddo ddychwelyd i Baris ym 1923, yn dilyn perswâd André Breton, fe greodd teclyn gweledol. Rotative Demisphère, optique de précision (Hanner-sffêr, cylchdro, optegol manwl) yn glôb wedi'i dorri yn ei hanner, gyda chylchoedd duon wedi'u peintio arno, wrth iddo gael ei droelli roedd y cylchoedd yn ymddangos i symud ymlaen ac yn ôl.

Aeth Duchamp ymlaen i greu nifer o Rotoreliefs, patrymau wedi'u peintio ar ddarnau o gardfwrdd crwn a drowyd ar chwaraewr recordiau. Ffilmiwyd rhai o'r Rotoreliefs gan Man Ray.

Awgrymodd Duchamp y gair mobile am o waith 3 dimensiwn gyda darnau symudiol wrth y cerflunydd Alexander Calder a defnyddir yr enw hyd heddiw.[14]

O gelf i gwyddbwyll

Ym 1918, gadawodd Duchamp byd celfyddydol Efrog Newydd am gyfnod, gan stopio ei waith ar y Gwydr Mawr i fynd i Buenos Aires i chwarae gwyddbwyll am naw mis. Erbyn 1923 nid celf ond gwyddbwyll oedd ei brif ddiddordeb mewn bywyd. Cymerodd ran yng nghystadlaethau gwyddbwyll fawr Ffrainc trwy'r 1920au a 1930au gan ennill y teitl 'Meistr'. Roedd ei wraig mor anhapus gyda'i obsesiwn gludodd y darnau i'r bwrdd. Erbyn canol y 1930au cyrhaeddodd Duchamp uchafbwynt ei alluoedd mewn gwyddbwyll a sylweddolodd nad oedd yn debygol o fod yn chwaraewr lefel uchaf un. Canolbwyntiodd ar ysgrifennu newyddiadurol am wddbywll. Tra roedd llawer o'i ffrindiau'n gwerthu eu gweithiau celf i gyfoethogion dywedodd Duchamp; Rwyf yn ddioddefwr gwyddbwyll, mae ganddi holl harddwch celf – a llawer mwy. Does dim modd ei ddifetha gyda masnach. Mae gwyddbwyll yn fwy pur na chelf[15] ac Os ddaw Bobby Fischer ataf am gyngor, yn bendant buaswn i ddim ceisio i'w troi i ffwrdd o wyddbwyll – na fyddai'n bosib – ond fuaswn ddweud yn gwbl glir wnaeth fyth ennill arian o wyddbwyll, gan fyw fel mynach ac yn cael ei wrthod yn fwy nac unrhyw arlunydd gobeithiol wrth drio ennill enw a chael ei dderbyn[16]

Rhan mewn celf yn ddiweddarach

Er i Duchamp peidio cael ei ystyried fel arlunydd gweithgar o'r 1930au ymlaen, fe gyd weithiodd hyd ddiwedd ei fywyd. Teithiodd rhwng Ffranc a'r Unol Daleithiau gan ymgartrefu yn Greenwich Village, ardal Bohemaidd o Efrog Newydd ym 1942. Cydweithiodd gyda Swrealwyr fel Max Ernst, er iddo beidio ag ymaelodi a'r mudiad er gwaethaf anogaeth André Breton. Bu'n olygydd y cylchgrawn Swrealaeth VVV a fu'n olygydd cynorthwyol cylchgrawn View.

Yn y 1950au bu'n gymorth i ddarganfod arlunwyr ifanc fel Robert Rauschenberg a Jasper Johns a chyd sylfaenydd y grŵp llenyddol Oulipo ym 1960.

Yn ystod y 1960au cynhaliwyd nifer o arddangosfeydd o'i waith cynnar gan nifer o orielau mawr y byd gan bwysleisio ei le allweddol mewn celf yr 20g.

Nodiadau

  1. Ian Chilvers & John Glaves-Smith, A Dictionary of Modern and Contemporary Art. Oxford University Press, p. 203
  2. "Francis M. Naumann, ''Marcel Duchamp'', Grove Art Online, Oxford University Press, MoMA, 2009". Moma.org. Cyrchwyd 2014-05-11.
  3. "Marcel Duchamp". TheArtStory.org. Cyrchwyd 8 May 2013.
  4. "Tate Modern: Matisse Picasso". Tate.org.uk. Cyrchwyd 13 February 2010.
  5. Adrian Searle (7 May 2002). "Searle, Adrian, A momentous, tremendous exhibition, The Guardian, Tuesday 7 May 2002". Guardian. UK. Cyrchwyd 13 February 2010.
  6. "Trachtman, Paul, Matisse & Picasso, Smithsonian, February 2003". Smithsonianmag.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-08. Cyrchwyd 13 February 2010.
  7. "Duchamp's urinal tops art survey". news.bbc.co.uk. 1 December 2004. Cyrchwyd 10 December 2010.
  8. [1] Marcel Duchamp (1887–1968) at Metropolitan Museum of Art
  9. "Icons of twentieth century photography come to Edinburgh for major Man Ray exhibition", ArtDaily. Accessed 15 December 2013. "In 1915, whilst at Ridgefield artist colony in New Jersey, he [Man Ray] met the French artist Marcel Duchamp and together they tried to establish a New York outpost of the Dada movement."
  10. de Micheli, Mario(2006). Las vanguardias artísticas del siglo XX. Alianza Forma. pp.135–137
  11. https://www.youtube.com/watch?v=ieVw3Mey5GQ
  12. Interview with Joan Bakewell BBC TV, 1966 https://www.youtube.com/watch?v=Bwk7wFdC76Y
  13. Marting, Marco De (2003). "Mona Lisa: Who is Hidden Behind the Woman with the Mustache?". Art Science Research Laboratory. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-03-20. Cyrchwyd 27 April 2008.
  14. Tomkins, Calvin: Duchamp: The World of Marcel Duchamp 1887–, Time, Inc., 1966. ISBN 158334148X
  15. Time Magazine. 10 Mawrth 1952
  16. Brady, Frank: Bobby Fischer: profile of a prodigy, Courier Dover Publications, 1989; p. 207.

Cyfeiriadau

  • Tomkins, Calvin: Duchamp: A Biography, Henry Holt and Company, Inc., 1996. ISBN 0-8050-5789-7
  • Tomkins, Calvin: Duchamp: The World of Marcel Duchamp 1887–, Time, Inc., 1966. ISBN 158334148X
  • Ian Chilvers & John Glaves-Smith: A Dictionary of Modern and Contemporary Art. Oxford University Press, pp. 202–205
  • Seigel, Jerrold: The Private Worlds of Marcel Duchamp, University of California Press, 1995. ISBN 0-520-20038-1
  • Hulten, Pontus (editor): Marcel Duchamp: Work and Life, The MIT Press, 1993. ISBN 0-262-08225-X
  • Yves Arman: Marcel Duchamp plays and wins, Marcel Duchamp joue et gagne, Marval Press, 1984
  • Cabanne, Pierre: Dialogs with Marcel Duchamp, Da Capo Press, Inc., 1979 (1969 in French), ISBN 0-306-80303-8
  • Gammel, Irene: Baroness Elsa: Gender, Dada and Everyday Modernity. Cambridge, MA: MIT Press, 2002.
  • Nodyn:Wayback Bonnie Jean Garner)
  • Gibson, Michael: Duchamp-Dada, (in French, Nouvelles Editions Françaises-Casterman, 1990) International Art Book Award of the Vasari Prize in 1991.
  • Sanouillet, Michel and Peterson, Elmer: The Writings of Marcel Duchamp. NY: Da Capo Press, 1989. ISBN 0-306-80341-0
  • Sanouillet, Michel and Matisse, Paul: Marcel Duchamp : Duchamp du signe suivi de Notes, Flammarion, 2008. ISBN 978-2-08-011664-2
  • Catherine Perret: Marcel Duchamp, le manieur de gravité, Ed. CNDP, Paris, 1998
  • Banz, Stefan (ed): Marcel Duchamp and the Forestay Waterfall, JRP-Ringier, Zürich, 2010. ISBN 978-3-03764-156-9

Llyfryddiaeth

  • Arturo Schwarz, The Complete Works of Marcel Duchamp, Delano Greenidge Editions, 1995
  • Linda Dalrymple Henderson, Duchamp in Context: Science and Technology in the Large Glass and Related Works, Princeton University Press, Princeton, 1998
  • Paola Magi, Caccia al tesoro con Marcel Duchamp, Edizioni Archivio Dedalus, Milano, 2010, ISBN 978-88-904748-0-4
  • Paola Magi: Treasure Hunt With Marcel Duchamp, Edizioni Archivio Dedalus, Milano, 2011, ISBN 978-88-904748-7-3
  • Marc Décimo: Marcel Duchamp mis à nu. A propos du processus créatif (Marcel Duchamp Stripped Bare. Apropos of the creative Act), Les presses du réel, Dijon (France), 2004 ISBN 978-2-84066-119-1.
  • Marc Décimo:The Marcel Duchamp Library, perhaps (La Bibliothèque de Marcel Duchamp, peut-être), Les presses du réel, Dijon (France), 2002.
  • Marc Décimo, Le Duchamp facile, Les presses du réel, coll. "L'écart absolu / Poche", Dijon, 2005
  • Marc Décimo (dir.), Marcel Duchamp et l'érotisme, Les presses du réel, coll. « L'écart absolu / Chantier », Dijon, 2008
  • T.J. Demos, The Exiles of Marcel Duchamp, Cambridge, MIT Press, 2007.
  • Lydie Fischer Sarazin-Levassor, A Marriage in Check. The Heart of the Bride Stripped by her Bachelor, even, Les presses du réel, Dijon (France), 2007.
  • J-T. Richard, "M. Duchamp mis à nu par la psychanalyse, même" (M. Duchamp stripped bare even by psychoanalysis), éd. L'Harmattan, Paris (France), 2010.

Dolenni allanol

Gwaith Duchamp

Traethodau Duchamp

  • Marcel Duchamp: The Creative Act (1957) Audio

Adnoddau eraill

Fideo a sain