Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20g. Dechreuwyd yn wreiddiol yn Zürich, Y Swistir ym 1916 fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd peintiadau, barddoniaeth a pherfformiadau artistiaid Dada yn aml yn ddychanol neu'n ymddangos yn absẃrd[1]
Bu'r Swistir yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddihangfa i arlunwyr a llenorion ifanc o'r Almaen a Ffrainc a oedd am osgoi gorfod ymladd ac oedd yn gwrthwynebu teimladau cryfion o wladgarwch, jingoistiaeth a chasineb a oedd ar led trwy bobloedd Ewrop ar y pryd. Wrth i'r rhyfel droi'n gyflafan waedlyd bu llawer yn ystyried fod dynoliaeth wedi colli pob rheswm ac wedi disgyn i wallgofrwydd.
Sefydlodd yr Almaenwyr Hugo Ball a Emmy Hennings glwb cabaret yn Zürich o'r enw Cabaret Voltaire ble gynhaliwyd perfformiadau yn gwawdio a dychanu 'synnwyr cyffredin' ac ymddygiad 'normal'. Enwyd y clwb ar ôl yr awdur Ffrangeg Voltaire (1694-1778) a ymosododd ar arferion cymdeithas ei gyfnod yn ei lyfr Candide.
O'r Cabaret Voltaire tyfodd mudiad celfyddydol anffurfiol. Dewiswyd yr enw di-ystyr, plentynnaidd 'Dada' ac yn fuan fe ledodd i Berlin, Paris ac Efrog Newydd.
Amcan y Dadawyr oedd troi rhesymeg wyneb i waered. Gan greu amrywiaeth eang o steils ac arddulliau newydd, roedd eu gwaith yn cynnwys, peintiadau, cerfluniaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, ffotograffiaeth, sinema a chollage.
Dylanwadwyd ar y Dadawyr gan fudiadau celfyddydol avant-garde eraill y cyfnod fel Ciwbiaeth, Dyfodoliaeth(Futurism) a Mynegiadaeth(Expressionism) ac anti-art (a ddyfeisiwyd ychydig o flynyddoedd yn gynt gan Marcel Duchamp).[2]
Roedd eu gweithgareddau yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, gwrthdystiadau a chyoeddi cylchgronau a maniffestos a oedd yn ddadlau'n frwd celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth.
Yn ogystal â bod yn erbyn rhyfel ac yn wrth-sefydliadol, roedd syniadaeth y Dadawyr yn aml yn gefnogol i fudiadau radicalaidd asgell chwith.[1]
Erbyn y 1930au yn yr Almaen, cafodd waith Dada ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Cafodd lawr o'r darluniau eu cipio a llyfrau eu llosgi gan y Natsïaid ac yn ddiweddarach anfonwyd llawer o'r artistiaid ac ysgrifenwyr na lwyddodd i ddianc yr Almaen i garchar neu'u lladd.
Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd Tristan Tzara a nifer o'r Dadawyr o'r Swistir i Baris ble roeddent yn ddylanwadol iawn ymlith yr arlunwyr a llenorion avant-garde wrth i syniadaeth Dada gyfrannu at y genhedlaeth nesaf o fudiadau celf, yn arbennig Swrealaeth.[3]
Yr enw Dada
Mae tarddiad yr enw Dada'n aneglur, mae rhai'n credu ei fod yn air diystyr; mae eraill yn mynnu ei fod yn dod o'r iaith Rwmaneg – y gair am 'ie'. Roedd Tristan Tzara a Marcel Janco'n Rwmaniaid a sylwyd ar eu defnydd cyson o 'Da Da' gan eu cyfeillion yn Zürich. Mae eraill yn cyfeirio at hanes y grŵp o arlunwyr yn y Swistir yn dewis y gair ar hap trwy bwyntio cyllell ar eiriadur Ffrangeg – Almaeneg. Y cyllell yn glanio ar 'Dada' - gair plentynnaidd am geffyl pren neu hobi (fel hobby horse yn Saesneg).[4]
(Trwy gyd-ddigwyddiad defnyddir hefyd y gair 'Da Da' yn rhai ardaloedd o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer melysion), fel a wneir yn Ffrangeg, gyda bon-bon.[5]
Enghraifft
Sut i wneud barddoniaeth Dada gan Tristan Tzara
♦ Cymerwch siswrn
♦ Dewiswch erthygl mor hir â'r gerdd rydych yn ei bwriadu
♦ Torrwch allan yr erthygl
♦ Wedyn torrwch bob gair sydd yn ffurfio'r erthygl ac yna'u rhoi mewn bag.
♦ Ysgydwch y bag yn ofalus
♦ Wedyn cymerwch y darnau allan, un ar ôl y llall, yn y drefn y maent yn gadael y bag.
♦ Copïwch yn gydwybodol
♦ Bydd y gerdd yn debyg ichi
♦ A dyma chi'n ysgrifennwr, yn wreiddiol hyd yr eithaf gyda dawn ddisglair ond heb werthfawrogiad yr heidiau cyffredin[6]
↑Tristan Tzara 1896–1963", in Susan Salas, Laura Wisner-Broyles, Poetry Criticism, Vol. 27, Gale Group Inc., 2000, eNotes.com; retrieved April 23, 2008