Mae Lost Boys & Fairies (2024) yn gyfres ddrama deledu a ddarlledwyd ar holl rwydwaith Brydeinig y BBC. Yr awdur oedd Daf James ac mae'n dilyn hanes pâr hoyw wrth iddynt fabwysiadu plentyn. Rhan o hynodrwydd y gyfres yw bod y sgript yn y Gymraeg a'r Saesneg gan adlewyrchu realiti ieithyddol y cymeriadau.[1]
Plot
Mae Gabriel (Siôn Daniel Young) ac Andy (Fra Fee), yn gwpl hoyw sydd wedi bod gyda'i gilydd ers wyth mlynedd ac yn awyddus i fabwysiadu plentyn. Mae'r ddau yn ymgymryd â'r broses fiwrocrataidd er mwyn mabwysiadu Jackie, gyda chymorth gweithiwr cymdeithasol.
Mae Andy yn gyffrous am y syniad o ddod yn dad, ond i'w bartner, Gabriel, brenhines drag, mae'r syniad yn atgas. Mae hyn nid yn unig oherwydd ei orffennol ei hun fel un bu'n gaeth i gyffuriau, ond hefyd oherwydd nad oedd ei blentyndod wedi bod yn un hapus, gyda marwolaeth annhymig ei fam, a homoffobia ei dad yn ei niweidio. Er bod y ddau eisiau mabwysiadu merch, mae Andy a Gabriel yn cyfarfod ac yn dechrau dod yn hoff o Jake, plentyn maeth a dynnwyd oddi wrth ei deulu oedd yn ei gam-drin. Fodd bynnag, ychydig cyn cwblhau'r mabwysiadu, mae Andy yn cael ei ladd yn ddamweiniol wrth geisio tawelu ffrwgwd, ac mae Gabriel, wedi'i lorio gan alar, yn cael ei adael gyda'r penderfyniad a ddylid bwrw ymlaen â mabwysiadu Jackie ai pheidio.
Cynhyrchu
Cyhoeddwyd y gyfres ddrama ym mis Mehefin 2022.[2] Cynhyrchwyd y gyfres gan Duck Soup Films a ffilmiwyd hi yng Nghaerdydd. Mae'r awdur, Daf James, yn adnabyddus am ei ddramâu Llwyth a Tylwyth a gafodd eu llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Cymru, mae wedi ysgrifennu nifer o ddramâu radio ac roedd yn un o awduron y gyfres boblogaidd S4C, Gwaith/Cartref, am bedair blynedd.
Hyrwyddo
Rhyddhawyd y trelar cyntaf ar gyfer y gyfres mini ar 23 Mai 2024.[3]
Dosbarthu
Rhyddhawyd y tair pennod wythnosol rhwng 3 a 17 Mehefin 2024 ar BBC One.[4]
Gwobrau
Enillodd y gyfres Prix de la Meilleure Fiction Européenne (Ffuglen Ewropeaidd Orau) yng Ngŵyl Festival da la Fiction yn La Rochelle , Ffrainc ym mis Medi 2024.[5][6]