Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
Taith gylchol Aberdaron i Uwchmynydd. Dyma lwybr gwastad sy'n cymryd tua pedair awr i'w cherdded ac sy'n 10 km o hyd. Arferai R.S. Thomas, fyw mewn bwthyn o fewn tiroedd Plas yn Rhiw, sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae golygfeydd arfordirol i'w gweld o bentir Mynydd Mawr a llawer o adar gwahanol i'w gweld.[3]
Taith feics Lôn Las Menai. 7 km yw hyd y daith feics hon: o'r Felinheli i Gaernarfon gan basio Plas Menai, Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae'r daith yn gyfochrog â'r Fenai ac yn cymryd tuag awr a hanner i'w gorffen. Mae i'r llwybr wyneb caled ac nid oes gatiau, bellach i'w hagor! Mae'n daith hawdd ar droed hefyd ac yn cysylltu gyda Lôn Eifion, sy'n 20 km cylchol.[4]
Nant Gwrtheyrn i Dre'r Ceiri. Taith ganolig yw hon sy'n 9 km o hyd gyda nifer o rannau serth. Y man cychwyn yw maes parcio Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn (SH349448), ar fin y dŵr. Coron y daith yw Tre'r Ceiri (SH372446) sef Bryngaer o'r Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid - y mwyaf dwyreiniol o dri chopa'r Eifl, uwchben pentref Llanaelhaearn. Tua 3 awr mae'n ei gymryd i gerdded y daith hon a dylid gwisgo esgidiau cerdded cryfion. Ceir bwyty newydd yn Nant Gwrthyrn (sef Caffi Meinir) sydd ers rai blynyddoedd bellach yn Ganolfan Iaith a Threftadaeth Cymru.