Ceir nifer o lwybrau lleol, llai y gellir eu defnyddio ac sy'n cychwyn ger Llwybr yr Arfordir, er enghraifft:
Taith gylchol Mynydd Mechell. Taith hawdd 5 km yw hon sy'n cymryd oddeutu dwyawr. Y man cychwyn yw Capel Jeriwsalem ar Fynydd Mellech (SH360899).
Taith Mynydd Parys. Y porthladd yn Amlwch (SH452936) yw man cychwyn a gorffen y daith hon ac mae'r cerddwr yn pasio pentir a goleudy Trwyn y Balog a Mynydd Parys. Mae hon yn daith 22 km ac fe gymrith tua 6 awr.[2]
Ynys Llanddwyn. Llwybr i gerddwyr yn unig yw hon gan mai tywod sydd o dan draed - mae'n draeth godidog gyda golygfeydd o Eryri i'w goroni. Cychwyn y daith yw maes parcio Llanddwyn SH415649 ac mae'n 2.3 km o ran hyd. Mae sarn (neu rimyn o dir) yn ei chysylltu â'r tir mawr pan fo'r llanw allan. Cysylltir yr ynys fechan hon â'r Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru. Gellir cyrraedd gweddillion yr eglwys a gysegrir i Ddwynwen trwy ddilyn llwybr troed ar hyd yr ynys o'r sarn. Mae'r adfeilion yn perthyn i'r 16g ond credir bod eglwys hynafol ar y safle cyn hynny.
Llefydd ar hyd y llwybr
O gychwyn yng Nghaergybi a cherdded yn glocwedd, mae’r llwybr yn mynd heibio i: