Mae'r gymuned hon yn cynnwys treflan Clygyrog a phorthladd bychan Cemaes (Porth Wygyr), lleoliad tybiedig maenor cantref Cemais yn yr Oesoedd Canol. Ceir nifer o hen chwareli calchfaen yn yr ardal. Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,316 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 690 (sef 52.4%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn Cymuned Llanbadrig yn gallu siarad Cymraeg.[1] Roedd 302 yn ddi-waith, sef 46.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.
Hanes
Enwir Llanbadrig ar ôl Sant Padrig, nawddsantIwerddon, a cheir eglwys o'r enw, prif eglwys y plwyf, ar yr arfordir ger Cemaes. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu yn y flwyddyn 440 gan Sant Padrig ei hun. Yn ôl chwedl leol, cafodd Padrig ei hun mewn llongdrylliad ar Ynys Badrig, sy'n ynys fechan yn agos i arfordir y plwyf, bron gyferbyn â safle'r eglwys bresennol.
↑Gwefan Cyfrifiad 2011; gwefan Saesneg "Ystadegau Cenedlaethol y DU". Adalwyd 28 Ebrill 2013.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.