Llwybr Arfordir Llŷn

Y llwybr 146-cilometr (91 mill)

Llwybr pellter hir swyddogol sy'n dilyn arfordir penrhyn Llŷn, Gwynedd, yw Llwybr Arfordir Llŷn. Cafodd ei gynllunio gan Gyngor Gwynedd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac mae'n cael ei reoli mewn partneriaeth gan y ddau gorff hwnnw.

Gyda hyd o 146 km (84 milltir), mae'r llwybr yn ymestyn o dref Caernarfon yn y gogledd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd arfordir gogledd Llŷn i ardal Uwchmynydd, ger Aberdaron ac yna'n troi i gyfeiriad y dwyrain i ddilyn arfordir deheuol y penrhyn i dref Porthmadog.

Mae llawer o'r llwybr yn defnyddio llwybrau cyhoeddus ond mewn rhannau mae'n croesi tir preifat gyda chaniatad y perchnogion.

Ymrennir y llwybr yn wyth rhan er mwyn hwylustod, a darperir pecynnau gwybodaeth yn rhad ac am ddim gan Gyngor Gwynedd ar gyfer y rhannau hyn:

  1. Caernarfon i Groeslon
  2. Groeslon i Clynnog Fawr
  3. Clynnog Fawr i Nefyn
  4. Nefyn i Llangwnnadl
  5. Llangwnnadl i Plas yn Rhiw
  6. Plas yn Rhiw i Llanbedrog
  7. Llanbedrog i Chwilog
  8. Chwilog i Porthmadog

Islwybrau gerllaw

Ceir nifer o islwybrau yn yr ardal, sy'n aml yn denu'r cerddwr i'r tir mawr; er enghraifft:

  1. Aberdaron i Uwchmynydd. Taith gymharol hawdd o amgylch pentir Pen Llŷn yw hon; taith sy'n cymryd ar gyfartaledd tua phedair awr cyn dychwelyd yn ôl i'r man cychwyn. 10 km yw ei hyd a gellir dod ar draws amrywiaeth dda o adar gan gynnwys: bras melyn, Piod môr, coch y berllan a'r telor penddu.[1]
  2. Lôn Las Menai (taith feics). Mae'r daith 7 km hon yn nadreddu i'r de o bentref Felinheli i gyfeiriad Caernarfon, yn gyfochrog a'r Fenai gan basio Plas Menai. Ni ddylai'r daith gymryd mwy nag awr a hanner i'w gwbwlhau, a cheir wyneb caled o dan draed. Tynnwyd pob giat ar y daith. Mae'n daith gyfforddus, diymdrech bron sy'n cysylltu gyda Lôn Eifion, sy'n 20 km ac sy'n ymlwybro i'r de o Gaernarfon ac ymlaen i Fryncir.[2]
  3. Nant Gwrtheyrn i Dre'r Ceiri. Mae hon wedi'i graddio o ran anhawster fel taith ganolig. Mae hi'n 9 km o daith gerdded, sy'n nadreddu i lawr o Ganolfan Nant Gwrtheyr (SH349448), i lawr at y traeth ac i fyny i gopa un o fryngaerau godidocaf Cymru o ran lleoliad, sef Tre'r Ceiri (SH372446). Mi gymrith teirawr reit dda a cheir maes parcio ar gyfer ceir yn y Nant, sy'n lle da i gychwyn.

Dolenni allanol

  • Cyngor Gwynedd Gwefan y llwybr. Gellir llwytho pecynnau am y rhannau uchod o'r wefan (ffeiliau PDF).

Cyfeiriadau

  1. "Discover Gwynedd". Cyngor Gwynedd. Cyrchwyd 13 Awst 2013.
  2. "Discover Gwynedd". Lôn Las Menai. Cyngor Gwynedd. Cyrchwyd 13 Awst 2013.