Lloyd Lewis |
---|
Ganwyd | 5 Medi 1996 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi, cyflwynydd teledu, rapiwr |
---|
Pwysau | 90 cilogram |
---|
Chwaraeon |
---|
Gwlad chwaraeon | Cymru |
---|
Cyflwynydd teledu, chwaraewr rygbi a rapiwr o Gymru yw Lloyd Lewis (ganwyd 5 Medi 1996 ).[1] Mae'n chwarae rygbi saith bob ochr fel asgellwr i'r Dreigiau.
Magwyd Lewis yng Nghwmbran ac aeth i Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl.[2] Astudiodd am radd Llenyddiaeth Saesneg ar y cyd â'r Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd[3] gan raddio yn 2019.[4]
Gyrfa
Fel chwaraewr rygbi saith bob ochr, mae Lewis wedi cynrychioli Cymru ar y lefel Dan 18 a Dan 20. Roedd hefyd yn rhan o dîm Cymru a gyrhaeddodd dwrnamaint Saith Bob Ochr Cwpan Rygbi'r Byd a gynhaliwyd yn Ne Affrica. Cystadlodd hefd yng Ngemau'r Gymanwlad 2022.[4]
Yn 2020 enillodd le ar gynllun gan ITV ac S4C i hyfforddi newyddiadurwyr er mwyn creu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh. Mae wedi cyflwyno CIC, y gyfres chwaraeon i blant ar S4C.[5] Mae hefyd yn gapten tîm ar Tekkers, y cwis chwaraeon i blant.[6] Roedd yn un o gyflwynwyr rhaglen uchafbwyntiau Tafwyl 2024.[7] Roedd yn ohebydd yn crwydro'r maes ar gyfer rhaglenni teledu Eisteddfod Genedlaethol 2024.[8]
Mae'n rapiwr ac wedi cydweithio gyda Dom James ar sawl cân.[9] Mae Dom a Lloyd wedi chwarae mewn gigiau yng nghŵyl Tafwyl 2023[10] ac yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.[11]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol