Cymuned ar benrhyn Gŵyr, yn sir Abertawe, Cymru, yw Llanrhidian Uchaf. Mae'n cymryd ei henw o bentref Llanrhidian, sydd wedi ei leoli yng nghymuned Llanrhidian Isaf i'r de.
Saif Llanrhidian Uchaf ar hyd glan ddeheuol aber Afon Llwchwr. Ar un adef roedd ffin ieithyddol Penrhyn Gŵyr, rhwng Cymraeg a Saesneg yma. Crofty, Llanmorlais a Phen-clawdd yw'r prif bentrefi. Bu diwydiant glo a copr yma, ac mae casglu cocos yn parhau i fod yn bwysig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Tonia Antoniazzi (Llafur).[2]
Poblogaeth
Cyfrifiad 2021
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y gymuned boblogaeth o 3,440 (2011: 3,635; 2001: 3,672).[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanrhidian Uchaf (pob oed) (5,218) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanrhidian Uchaf) (705) |
|
13.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanrhidian Uchaf) (4287) |
|
82.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanrhidian Uchaf) (798) |
|
36.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau