José Saramago
José Saramago |
---|
| Ganwyd | José de Sousa Saramago 16 Tachwedd 1922 Azinhaga, Golegã |
---|
Bu farw | 18 Mehefin 2010 o liwcemia Lanzarote, Tías |
---|
Dinasyddiaeth | Portiwgal |
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, dramodydd, cyfieithydd, nofelydd, bardd, croniclwr, awdur ysgrifau, dyddiadurwr, beirniad llenyddol, llenor, sgriptiwr, dramodydd, chwyldroadwr |
---|
Adnabyddus am | The Gospel According to Jesus Christ, Blindness, Seeing, Cain, Death with Interruptions, The Elephant's Journey |
---|
Arddull | magic realist fiction |
---|
Mudiad | magic realism |
---|
Priod | Ilda Reis, Isabel da Nóbrega, Pilar del Río |
---|
Plant | Violante Saramago Matos |
---|
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Camões, Gwobr America am Lenyddiaeth, Uwch Goleg Urdd Sant'Iago de l'Épée, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Manceinion, honorary doctorate of the University of Coimbra, chevalier des Arts et des Lettres, honorary doctorate of the University of Castille-La Mancha, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Bordeaux Montaigne, honorary doctorate of the University of Granada, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Las Palmas, Gran Canaria, Commander of the Military Order of Saint James of the Sword, honorary doctor of the University of Brasília, honorary doctorate of Seville University, honorary doctor of the University of Turin, honorary doctorate of the Polytechnic University of Valencia, honorary doctor of the University of Santiago, Chile, honorary doctorate of the University of Salamanca, Q130553019, Grand Collar of the Order of Camões, Q130852614 |
---|
Gwefan | https://www.josesaramago.org |
---|
llofnod |
---|
|
Llenor a newyddiadurwr o Bortiwgal oedd José de Sousa Saramago (16 Tachwedd 1922 – 18 Mehefin 2010). Enillodd Wobr Llenyddiaeth Nobel yn 1998.
Ganed ef i deulu tlawd yn Azinhaga, pentref bychan yn nhalaith Ribatejo i'r de-ddwyrain o Lisbon. Symudodd y teulu i Lisbon yn 1924, lle cafodd ei dad waith fel plismon. Bu José yn gweithio fel mecanydd ceir am ddwy flynedd, yna fel cyfieithydd a newyddiadurwr. Daeth yn olygydd cynorthwyol y papur newydd Diário de Notícias.
Dim ond yn ei bum degau y daeth yn adnabyddus yn rhyngwladol, gyda chyhoeddi'r nofel Baltasar a Blimunda. Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Portiwgal ers 1969, ac achosodd ei syniadau gryn helynt ym Mhortiwgal ar adegau, yn enwedig ar ôl cyhoeddi Yr Efengyl yn ôl Iesu Grist, oedd yn portreadu Iesu fel dyn ffaeledig. Yn rhannol oherwydd yr helynt yma, symudodd ef a'i wraig i Lanzarote i fyw. Beirniadodd Israel yn hallt am ei gweithredodd ym Mhalesteina a Libanus.
Gweithiau
Teitl |
Blwyddyn |
|
Terra do Pecado |
1947 |
|
Os Poemas Possíveis |
1966 |
|
Provavelmente Alegria |
1970 |
|
Deste Mundo e do Outro |
1971 |
|
A Bagagem do Viajante |
1973 |
|
As Opiniões que o DL teve |
1974 |
|
O Ano de 1993 |
1975 |
|
Os Apontamentos |
1976 |
|
Manual de Pintura e Caligrafia |
1977 |
|
Objecto Quase |
1978 |
|
Levantado do Chão |
1980 |
|
Viagem a Portugal |
1981 |
|
Memorial do Convento |
1982 |
|
O Ano da Morte de Ricardo Reis |
1986 |
|
A Jangada de Pedra |
1986 |
|
História do Cerco de Lisboa |
1989 |
|
O Evangelho Segundo Jesus Cristo |
1991 |
|
Ensaio sobre a Cegueira |
1995 |
|
Todos os Nomes |
1997 |
|
O Conto da Ilha Desconhecida |
1997 |
|
A Caverna |
2001 |
|
O Homem Duplicado |
2003 |
|
Ensaio sobre a Lucidez |
2004 |
|
Don Giovanni ou o Dissoluto Absolvido |
2005 |
|
As Intermitências da Morte |
2005 |
|
As Pequenas Memórias |
2006 |
|
|
|