Cafodd John Hughes ei eni yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa ym 1775 yn fab i David Hughes, Penyfigin, a Jane ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Blwyf Llanfihangel ar 26 Chwefror 1775.[2] Roedd ei frawd iau, Morris Hughes (1779 - 1846), yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanwddyn.[3].
Roedd anghyfartaledd mawr rhwng oed ei rieni. Roedd ei dad yn 70 oed a'i fam yn 30 ar adeg eu priodi.[4] Does dim syndod felly y bu farw ei dad pan oedd John yn 7 a Morris yn 3. Wedi marwolaeth y tad cafodd y bechgyn fagwraeth dlawd iawn. Ni chafodd lawer o addysg yn ôl ei dystiolaeth ei hun: "Cefais beth ysgol hynod o wael. Dysgais ddarllen Saesneg heb ddeall dim ohono, a phan ddysgais ddarllen Cymraeg, ni wnes sylw o'r Saesneg am lawer blwyddyn".[5]
Doedd Hughes ddim yn dod o gefndir crefyddol iawn ac roedd ei ieuenctid yn un bydol iawn. Roedd ganddo enw am fod yn actor dawnus ac yn awdur anterliwtiau[4]. Bu'n barddoni ar bynciau seciwlar gan ddefnyddio'r enw barddol Ioan ap Huw.[5] Yn y cyfnod yma dechreuodd gymryd snisin (snuff, tybaco wedi ei falu'n powdr i'w anadlu trwy'r trwyn), arferiad bu'n gaeth iddo am weddill ei ddyddiau, gan greu difyrrwch i'w braidd gan ei fod yn cadw'r llwch yn rhydd yn llogell ei wasgod, ac yr oedd ganddo, medd traddodiad, lwy o faint llwy fwstard i'w lwybreiddio oddi yno i'r ffroenau [6]. Dechreuodd ymddiddori yn yr achos Methodistaidd wedi clywed Thomas Jones, Llanwnnog yn pregethu yn ystod Haf 1796 ac ymunodd â seiat y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-llys. Symudodd y seiat honno maes o law i Bontrobert, lle y codwyd capel ar ei chyfer yn 1800. Ymhlith aelodau eraill o'r seiat roedd y brawd a chwaer John ac Ann Thomas (Ann Griffiths, wedyn), Dolwar Fach a John Davies, Pendugwm (John Davies, Tahiti wedyn). Daeth John Hughes yn ffrindiau mawr â'r tri.[7]
Gyrfa
Oherwydd sefyllfa ariannol druenus ei deulu dechreuodd Hughes weithio fel gwas llafur ar nifer o ffermydd ei gymdogaeth o oedran bur ifanc. Pan oedd tua 11 oed aeth i hyfforddi fel prentis gwehydd i dad John Davies, Pendugwm.[4]
Ar ôl ei dröedigaeth ym 1796, clywodd Thomas Charles fod John Hughes a John Davies yn aelodau diwyd a defnyddiol o seiat y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Gwahoddwyd y ddau i ddod yn athrawon yn ei ysgolion cylchynol.[8] Bu Hughes yn athro yn Llanfihangel, Pontrobert, Llanwrin, Berth-las, a Llanidloes.[9]
Dechreuodd Hughes bregethu ym 1802 a chafodd ei ordeinio yn Sasiwn y Bala ym 1814. Y bwthyn oedd ynghlwm wrth hen gapel y Methodistiaid ym Mhontrobert fu ei gartref ar hyd weddill ei oes, ond er hynny bu'n teithio ar hyd Cymru[10] ac yn cael gwahoddiad i bregethu ym mhrif gyfarfodydd ei enwad. Yn fuan iawn daeth yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr enwad. Gymaint oedd ei boblogrwydd a'i dylanwad fel y cyfeiriwyd ato erbyn diwedd ei oes fel "Hybarch Esgob Methodistiaid Cymru" [11]. Roedd ei bregethau yn egnïol, yn gryno, ac yn eglur. Roedd ei ymddangosiad yn flêr ac roedd ei hylendid personol a'i arferion bwyta yn hynod ddiffygiol.[4] Nid oedd ei lais yn soniarus, roedd braidd yn llym ei sain; ond, er gwaethaf yr anfanteision hyn, roedd yn aml yn arddangos llawer o rym yn y pulpud, ac yn ddi-os roedd ganddo ddylanwad mawr ar grefydd anghydffurfiol ei gyfnod.[12]
Teulu
Ar 7 Mai 1805, yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa priododd Hughes â Ruth Evans, merch Morris Evans, Melin y Mardy, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Roedd ei thad a'i mam ymysg Methodistiaid cyntaf y sir.[13] Roedd Ann Griffiths a'i gŵr Thomas yn dystion i'r briodas. Bu saith plentyn o'r briodas. Roedd eu merch Jane (neu Siân) Hughes (Deborah Maldwyn) yn crwydro Cymru i geisio efengylu, yn ei ffordd ei hun, ac yn cynnal ei hun trwy werthu taflenni baledi oedd yn cynnwys rhai o'i gweithiau barddonol.[14]
Llenor
Bu Ruth Evans yn gwasanaethu yn Nolwar Fach am rai blynyddoedd. Roedd hi wedi clywed Ann Griffiths yn adrodd rhai o'i emynau ac yn eu cofio. Bu Ann Griffiths marw heb gyhoeddi dim o'i gwaith. Adroddodd Ruth rai o'r emynau wrth Thomas Charles o'r Bala. Gan fod Ruth yn anllythrennog ar y pryd anogodd Charles iddi adrodd y cyfan roedd yn ei gofio i John ei gŵr, ac iddo ef eu paratoi ar gyfer eu cyhoeddi. Ym 1806 cyhoeddwyd y cerddi roedd Ruth wedi cofio, ynghyd â rhai roedd tad Ann wedi eu cofnodi, mewn cyfrol o dan olygyddiaeth Thomas Charles o'r enw Casgliad o Hymnau, a daeth emynau Ann yn boblogaidd iawn yn sgil hynny.
Yn ogystal â chadw emynau Ann Griffiths, bu John Hughes yn ysgrifennu emynau ei hun. Cyhoeddwyd rhai ohonynt yn un o gyfrolau 'Cyfres y Fil' (Gwaith John Hughes, atodiad i Gwaith Ann Griffiths), ym 1905 (gan Syr O. M. Edwards.[15]. Roedd naw o'i emynau yn Llyfr Emynau'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd a gyhoeddwyd ym 1927.[16] Pan ddisodlwyd llyfr Emynau'r Methodistiaid gan Caneuon Ffydd, y gyfrol gydenwadol o emynau a gyhoeddwyd yn 2001, dim ond un o emynau Hughes a gadwyd:
Bu John Hughes yn gyfrannwr cyson i gylchgronau Cymraeg ei ddydd, yn arbennig Y Drysorfa a Y Traethodydd. Cyhoeddodd hefyd nifer o gofiannau, casgliadau o emynau a chasgliadau o bregethau gan gynnwys:
Hymnau i'w canu yn yr Ysgolion Sabbothol (1821)
Trefn eglwysig Ynysoedd Môr y Dehau: yn gynnwysedig mewn llythyr a anfonwyd gan y Parchedig John Davies, cenhadwr yn yr ynysoedd hynny, at John Hughes, Pont Robert, Sir Drefaldwyn (1821)
Cyfansoddiad Prydyddawl ar Lyfr Caniad Solomon (1822)
Hanes mordaith y Parch. John Davies (cenhadwr yn ynys Tahiti) i ynysoedd Rapa, Raivavae a Tupual, yn Môr y Deau, o Ionawr y 14eg hyd Mawrth y 5ed, 1826 (1827)
Cofiant Owen Jones o'r Gelli (1830)
Dwy bregeth ar farwolaeth Crist a'i dybenion : a bregethwyd yn Nghymdeithasfa y Trefnyddion Calvinaidd yn Manchester, Mehefin 10 a 11, 1835 (1836)
Cofiant E. Griffiths, Meifod (1841)
Cofiant Abraham Jones, Aber-rhaiadr (1841)
Cofiant William Jones, Dol-y-fonddu (1841)
Cofiant John Price, Trefeglwys (1841)
Cofiant Ann Griffiths (Cyhoeddwyd gyntaf yn Y Traethodydd ym 1846, ac yna fel llyfryn ym 1854)
Marwolaeth
Bu'n rhaid i Hughes roi gorau i deithio ac i bregethu ym mis Mawrth 1854 wedi iddo gael math o barlys (strôc mae'n debyg). Ar ôl ei gaethiwo i'w gartref am rai misoedd bu farw yn 79 mlwydd oed a chladdwyd ef ym mynwent y Methodistiaid ym Mhontrobert.[4]
Cyfeiriadau
↑John Hughes - Y Bywgraffiadur Cymreig Gweler hefyd E. Wyn James, ‘John Hughes, Pontrobert a’i Gefndir’, Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd), 37 (2013).
↑James, E. Wyn (2004). "'Eneiniad Ann a John': Ann Griffiths, John Hughes a Seiat Pontrobert". Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion10: 111-132.
↑James, E. Wyn (2018). "'Y Mae Fy Llafur yn Fawr': Hunangofiant John Hughes, Pontrobert, hyd 1816, a’i Ddyddiadur am y Flwyddyn Honno". Cylchgrawn Hanes (Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd)42: 92-133.