Mae 'r ieithoedd Goedelaidd, a elwir weithiau yr ieithoedd Gaelaidd, yn grŵp o ieithoedd sy'n cynnwys Gwyddeleg (Gaeilge), Gaeleg yr Alban neu Gaeleg (Gàidhlig) a Manaweg (Gaelg). Rhennir yr ieithoedd Celtaidd sy'n cael eu siarad heddiw yn ieithoedd Goedelaidd ac ieithoedd Brythonaidd, sy'n cynnwys Cymraeg, Cernyweg a Llydaweg.
Cyfeirir at yr iaith gysefin y datblygodd yr ieithoedd Goedelaidd ohoni fel Celteg Q neu Goedeleg ac felly gelwir yr ieithoedd Goedelaidd yn 'ieithoedd Celteg Q' weithiau hefyd, tra gelwir yr iaith gysefin y tyfodd yr ieithoedd Brythonig ohoni yn Gelteg P (Brythoneg: iaith y Brydain Geltaidd ac eithrio gogledd yr Alban, tarddiad yr ieithoedd Brythonaidd). Cadwodd yr ieithoedd Q y sain Celteg *kʷ, a daeth yn [k]) yn ddiweddarach. Yn yr ieithoedd Brythonaidd trôdd y sain *kʷ yn [p]. Ymhlith hen ieithoedd Celtaidd y cyfandir, ceir y [p] mewn Galeg tra'r oedd Celtibereg yn cadw'r *kʷ.
Celteg
|
Galeg
|
Cymraeg
|
Llydaweg
|
Gwyddeleg
|
Gaeleg yr Alban
|
Manaweg
|
*kʷennos
|
pennos
|
pen
|
penn
|
ceann
|
ceann
|
kione
|
*kʷetwar-
|
petuarios
|
pedwar
|
pevar
|
ceathair
|
ceithir
|
kiare
|
*kʷenkʷe
|
pinpetos
|
pump
|
pemp
|
cúig
|
còig
|
queig
|
*kʷeis
|
pis
|
pwy
|
piv
|
cé (older cia)
|
cò/cia
|
quoi
|
Credir fod yr ieithoedd Goedelaidd wedi datblygu fel a ganlyn:
Hyd y gwyddys, dim ond yn Iwerddon roedd Goedeleg, tardd-iaith yr ieithoedd Goedelaidd, yn cael ei siarad hyd nes i'r Scotti ymfudo o Iwerddon i orllewin yr Alban rywbryd rhwng y 3g a'r 6g OC.