Ychydig sydd ar ôl o'r iaith, heblaw dyrnaid o enwau lleoedd a rhai enwau personol, ac ambell arysgrif at blaciau efydd a phlwm. Mae'r rhain yn defnyddio'r sgript Geltibereg, sy'n defnyddio cyfuniad o'r wyddor Ffenicaidd a'r wyddor Roeg. Roedd Celtibereg yn iaith "Celteg Q", fel yr ieithoedd Goideleg, yn hytrach na "Chelteg P" fel Galeg a'r ieithoedd Brythoneg. Y farn gyffredinol ymysg ieithyddwyr yw bod yr hollt rhwng "p" a "q" yn yr ieithoedd Celtaidd Ynysig wedi digwydd yn annibynnol ar yr hollt yma yn yr ieithoedd Celtaidd Cyfandirol, ond mae rhai yn anghytuno.
Yr arysgrifau mwyaf nodedig mewn Celtibereg yw'r rhai ar dri plac a ddarganfuwyd yn
Botorrita ger Saragossa, o'r ganrif gyntaf CC.
Llyfryddiaeth
Jordán Cólera, C. (2005). Celtibérico. Zaragoza.
Hoz, Javier de. (1996). The Botorrita first text. Its epigraphical background; yn: Die größeren altkeltischen Sprachdenkmäler. Akten des Kolloquiums Innsbruck 29. April - 3. Mai 1993, gol. W. Meid a P. Anreiter, 124–145, Innsbruck.
Mallory, J. P. (1989). In Search of the Indo-Europeans. Thames & Hudson. ISBN 0-500-05052-X
Meid, Wolfgang. (1994). Celtiberian Inscriptions, Archaeolingua, gol. S. Bökönyi a W. Meid, Series Minor, 5, 12–13. Budapest.