Hermann Göring |
---|
|
Ganwyd | Hermann Wilhelm Göring 12 Ionawr 1893 Rosenheim |
---|
Bedyddiwyd | 8 Chwefror 1893 |
---|
Bu farw | 15 Hydref 1946 o gwenwyno gan syanid Nuremberg Court Prison, Nürnberg |
---|
Man preswyl | Reichstagspräsidentenpalais |
---|
Dinasyddiaeth | yr Almaen Natsïaidd, Ymerodraeth yr Almaen, yr Almaen, Sweden |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd, hedfanwr, casglwr celf, war criminal, swyddog yr awyrlu, swyddog milwrol, peilot awyren ymladd, gweinidog |
---|
Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Vice-Chancellor of Germany, Minister President of Prussia, Reichsstatthalter, Aelod Seneddol |
---|
Cyflogwr | |
---|
Taldra | 1.78 metr |
---|
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
---|
Tad | Heinrich Ernst Göring |
---|
Mam | Franziska Tiefenbrunn |
---|
Priod | Carin Göring, Emmy Göring |
---|
Plant | Edda Göring |
---|
Gwobr/au | Pour le Mérite, Knight's Cross of the Iron Cross, Prif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Urdd Mihangel Ddewr, Collar of the Imperial Order of the Red Arrows, Grand Cross of the Iron Cross, Honour Cross of the World War 1914/1918, Bathodyn y Parti Aur, Blood Order, Danzig Cross, Prif Ruban Urdd y Wawr, Royal Order of the Sword, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, knight of the Royal House Order of Hohenzollern, Order of the Zähringer Lion, Military Karl-Friedrich Merit Order, Iron Cross 2nd Class, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd y Dannebrog, Grand Cross of the Order of the Cross of Liberty |
---|
llofnod |
---|
|
Un o brif arweinwyr y llywodraeth a'r blaid Natsïaidd yn yr Almaen oedd Hermann Wilhelm Göring, hefyd Goering (12 Ionawr 1893 – 15 Hydref 1946).
Ganed ef yn Rosenheim, Bafaria. Daeth i amlygrwydd fel awyrennwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; saethodd 22 o awyrennau'r gelyn i lawr, a dyfarnwyd y medal Pour le Mérite iddo.
Daeth yn ffigwr amlwg yn y Blaid Natsïaidd yn y cyfnod cyn iddi ddod i rym, ac wedi i Adolf Hitler ddod yn Ganghellor yr Almaen, daliai Göring nifer o swyddi pwysig. Yn eu plith, roedd yn bennaeth y Luftwaffe, llu awyr yr Almaen, ac ef oedd wedi ei nodi fel olynydd Hitler.
Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, ef oedd yr amlycaf o'r diffinyddion a roddwyd ar eu prawf yn Nhreialon Nuremberg. Cafwyd ef yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond y noson cyn y diwrnod a benodwyd ar gyfer ei grogi, lladdodd ei hun trwy gymeryd gwenwyn.