Treialon Nuremberg

Treialon Nuremberg
Delwedd:Defendants in the dock at nuremberg trials.jpg, Nuremberg Trials. Looking down on defendants dock, circa 1945-1946. - NARA - 540127.jpg
Enghraifft o:war crimes trial Edit this on Wikidata
Mathtrial Edit this on Wikidata
Dechreuwyd20 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Olynwyd gansubsequent Nuremberg trials Edit this on Wikidata
LleoliadPalace of Justice Edit this on Wikidata
Map
Gwefanhttp://museen.nuernberg.de/memorium-nuernberger-prozesse/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Treialon Nuremberg neu Brofion Nuremberg yw'r enw a ddefnyddir am nifer o achosion llys a gafodd eu dwyn gan lywodraethau yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn erbyn arweinwyr y llywodraeth Natsiaidd yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd y profion yn ninas Nuremberg yn yr Almaen rhwng 1945 y 1949. Y prif brawf oedd yr un a ddechreuodd ar 20 Tachwedd 1945, yn erbyn y prif arweinwyr. Nid oedd y diffinyddion yn cynnwys yr arweinwyr oedd wedi eu lladd eu hunain i osgoi cael ei dal, megis Adolf Hitler ei hun, Heinrich Himmler, Joseph Goebbels ac eraill, ond rhoddwyd Martin Bormann ar ei brawf yn ei absenoldeb, gan nad oedd sicrwydd a oedd wedi ei ladd neu wedi dianc. Rhoddwyd 24 o bobl ar eu prawf yn yr achos hwn.

Y cyhuddedig ym mhrif brawf Nuremberg. Ar y chwith: Hermann Goering, Rudolf Hess, Joachim von Ribbentrop, Wilhelm Keitel. Ar y dde: Karl Doenitz, Erich Raeder, Baldur von Schirach a Fritz Sauckel.

Y cyhuddiadau

Roedd pedwar cyhuddiad, er na chyhuddwyd pob un o'r diffinyddion o bob un o'r pedwar:

  1. Troseddau rhyfel
  2. Troseddau yn erbyn dynoliaeth
  3. Hil-laddiad
  4. Rhyfel ymosodol


Y cyhuddedig a'r dedfrydau

Enw Swydd Dedfryd
Martin Bormann Olynydd Hess fel Ysgrifennydd y Blaid Natsiaidd Marwolaeth (yn ei absenoldeb)
Hans Frank Llywodraethwr Gwlad Pwyl Marwolaeth
Wilhelm Frick Gweinidog Cartref Marwolaeth
Hermann Göring Pennaeth y Luftwaffe ac arlywydd y Reichstag Marwolaeth
Alfred Jodl Pennaeth Gweithrediadau y Wehrmacht Marwolaeth
Ernst Kaltenbrunner Pennaeth yr RSHA a'r einsatzgruppen Marwolaeth
Wilhelm Keitel Pennaeth y Wehrmacht Marwolaeth
Joachim von Ribbentrop Gweinidog Tramor Marwolaeth
Alfred Rosenberg Ideolegydd hiliaeth Marwolaeth
Fritz Sauckel Pennaeth y rhaglen gweithwyr dan orfod Marwolaeth
Arthur Seyss-Inquart Llywodraethwy yr Iseldiroedd Marwolaeth
Julius Streicher Golygydd y cylchgrawn gwrth-semitig Der Stürmer Marwolaeth
Walter Funk Gweinidog Economaidd Carchar am oes
Rudolf Hess Dirprwy Hitler Carchar am oes
Erich Raeder Pennaeth y llynges Carchar am oes
Albert Speer Gweinidog Arfogaeth 20 mlynedd
Baldur von Schirach Pennaeth Ieuenctid Hitler 20 mlynedd
Konstantin von Neurath Llywodraethwr Bohemia a Morafia 15 mlynedd
Karl Dönitz Pennaeth y llynges, olynydd Hitler 10 mlynedd
Hans Fritzsche Dirprwy Joseph Goebbels yn y Weinyddiaeth Bropaganda Dieuog
Franz von Papen Is-ganghellor Dieuog
Hjalmar Schacht Cyn-bennaeth y Reichsbank Dieuog
Gustav Krupp Diwydiannydd Dim yn gymwys i'r roi ar ei brawf
Robert Ley Pennaeth y Corfflu Gwaith Lladdodd ei hun yn ystod yr achos