Gregory Peck
Gregory Peck |
---|
Llun cyhoeddusrwydd o Gregory Peck mewn un o'i rannau enwocaf, Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird (1962) | Ganwyd | Eldred Gregory Peck 5 Ebrill 1916 La Jolla, San Diego |
---|
Bu farw | 12 Mehefin 2003 o niwmonia'r ysgyfaint Los Angeles |
---|
Man preswyl | San Diego, Los Angeles, La Jolla |
---|
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor cymeriad, cynhyrchydd ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor, cynhyrchydd |
---|
Arddull | y Gorllewin gwyllt, ffilm antur, ffilm am ddirgelwch, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ddrama, film noir, ffilm arswyd, psychological horror film, ffilm drosedd, ffilm llawn cyffro, ffilm gyffro, ffilm ryfel |
---|
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
---|
Mam | Bernice Mae Ayres |
---|
Priod | Greta Kukkonen, Veronique Peck |
---|
Plant | Cecilia Peck, Stephen Joseph Peck |
---|
Gwobr/au | Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Donostia, Marian Anderson Award, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Golden Globe Award for Best Actor in a Leading Role, Gwobr Henrietta, Gwobr Henrietta, Gwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr David di Donatello am yr Actor Estron Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Y César Anrhydeddus, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Donostia, Ours d'or d'honneur, Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr Dyneiddiaeth Jean Hersholt |
---|
Gwefan | https://www.gregorypeck.com/ |
---|
Actor ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Eldred Gregory Peck (5 Ebrill 1916 – 12 Mehefin 2003) a fu'n un o sêr oes glasurol Hollywood. Fe'i cydnabuwyd am bortreadu cymeriadau gonest a pharchus, gan ddod â phresenoldeb urddasol i'r sgrin fawr gyda'i daldra a'i lais dwfn, mwyn.[1][2]
Ganed ef yn La Jolla, Califfornia, yn fab i fferyllydd o dras Seisnig a Gwyddelig, a'i wraig o dras Seisnig ac Albanaidd. Mynychodd Academi Filwrol St John yn Los Angeles ac Uwchysgol San Diego cyn iddo astudio am un flwyddyn yng Ngholeg Taleithiol San Diego. Derbyniodd ei radd o Brifysgol Califfornia, Berkeley. Aeth i Efrog Newydd i gychwyn ar ei yrfa actio, ac yno astudiodd yn y Neighborhood Playhouse a gweithiodd yn Radio City Music Hall.Ymddangosodd ar lwyfan Broadway yn gyntaf ym 1942 yn y ddrama The Morning Star. Oherwydd anaf i'r cefn, ni châi ei dderbyn i'r lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymddangosodd Peck ar y sgrin fawr yn gyntaf fel herwfilwr Sofietaidd yn y ffilm ryfel Days of Glory (1944). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am ei rannau yn The Keys of the Kingdom (1944) a Gentleman's Agreement (1947). Yn y 1940au a'r 1950au gweithiodd Peck gyda nifer o gyfarwyddwyr ffilm amlyca'r cyfnod, gan gynnwys Alfred Hitchcock, King Vidor, William Wellman, William Wyler, Vincente Minnelli, a Lewis Milestone. Ymddangosodd mewn sawl ffilm a gyfarwyddwyd gan Henry King, gan gynnwys The Gunfighter (1950), The Snows of Kilimanjaro (1952), a The Bravados (1958). Enillodd Wobr yr Academi am bortreadu'r cyfreithiwr Atticus Finch yn To Kill a Mockingbird (1962), addasiad o nofel Harper Lee.
Ymhlith ei rannau diweddarach mae'r tad yn y ffilm arswyd The Omen (1976), y Cadfridog Douglas MacArthur yn y ffilm fywgraffyddol MacArthur (1977), a Josef Mengele yn The Boys from Brazil (1978). Bu farw Gregory Peck yn Los Angeles yn 87 oed.[3]
Cyfeiriadau
|
|