Ffilm gyffro

Ffilm gyffro
Enghraifft o:genre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathcyffro, ffilm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre ffilm sy'n ennyn cynnwrf ac ias yn y gynulleidfa yw ffilm gyffro.

Mae'r ffilm gyffro yn debyg i raddau â ffilmiau antur a llawn cyffro (neu "acsiwn") am eu bod i gyd yn ymwneud â chymeriadau'n gwyro oddi ar rigolau bywyd ac yn cael profiadau cyffrous a pheryglus. Gellir gwahaniaethu rhwng cyffro ac antur yn nhermau cefndir y stori: gosodir y ffilm gyffro fel rheol yn y byd cyffredin, a bywyd pob dydd, tra digwydd y ffilm antur mewn amgylchfyd arbennig. Mae'r stori gyffro yn dibynnu ar elfennau ychwanegol i drawsffurfio'r pethau pob dydd a chreu sefyllfa anarferol, gan beri pryder a pherygl, neu ias a chyffro.[1] Nodweddir y ffilm lawn cyffro gan ymladd, gornestau cyffrous rhwng cymeriadau da a drwg, a champau corfforol, motiffau nad yw'n angenrheidiol mewn ffilm gyffro.

Mae ffilmiau cyffro yn aml yn gorgyffwrdd â genres sinematig eraill, ac mae is-genres yn cynnwys y ffilm gyffro seicolegol, y ffilm gyffro oruwchnaturiol, y ffilm ysbïo, y ffilm gyffro wleidyddol, y ffilm gyffro gyfreithiol, y ffilm gynllwyn, a'r ffilm gyffro erotig.

Cyfeiriadau

  1. Martin Rubin, "Thrillers" yn Schirmer Encyclopedia of Film cyfrol 4, golygwyd gan Barry Keith Grant (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007), t. 255.