Gorsaf Reilffordd Harbwr Porthmadog

Gorsaf reilffordd Harbwr Porthmadog
Mathgorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd harbwr Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1955, 1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPorthmadog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9239°N 4.127°W Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Map
Mountaineer yn gadael Porthmadog

Gorsaf reilffordd yn nhref Porthmadog, Gwynedd, yw Gorsaf Reilffordd Harbwr Porthmadog, sy'n derminws i ddwy reilffordd, sef Rheilffordd Ffestiniog - a dechreuwyd ym 1836 i gludo llechi o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog - a Rheilffordd Eryri, sy'n cysylltu Porthmadog a Chaernarfon.

Hanes

Saif yr orsaf ar ben gorllewin Y Cob, a adeiladwyd yn 1842 ar draws y Traeth Mawr, Agorwyd yr orsaf ar 6 Ionawr 1865. Defnyddiwyd yr orsaf gan drenau Reilffordd Eryri o 1923 hyd at 1936. Ailenwyd yr orsaf 'Portmadoc Old' ym1923, i'w gwahanieithi o 'Portmadoc New', adeiladwyd ar groesfan rhwng Rheilffordd Eryri a Lein Arfordir Cambrian. Daeth yr orsaf 'Portmadoc Harbour' eto yn llawrlyfr Bradshaw 1930[1]. Caewyd yr orsaf i deithwyr ar 15 Medi 1939.

Ailagorwyd yr orsaf i deithwyr ar Reilffordd Ffestiniog yn ei newydd wedd ar 23 July 1955 gan Janet Jones, Brenhines Twristiaeth Cymru[1].

Ailagorwyd Rheilffordd Eryri hyd at Borthmadog yn 2011. Cwblhawyd platfform newydd ar gyfer trenau Rheilffordd Eryri yn 2014, ar ôl gwaith yn costio £1.3 miliwn o bunnau.[2] Lledwyd Y Cob yn ymyl yr orsaf er mwyn creu digon o le i'r platfform.[3]

Adeiladau

Yr Orsaf

Mae'r adeiladau cerrig presennol wedi disodli adeiladau pren cynharach, a defnyddiwyd ar safleoedd eraill ar y rheilffordd. Adeiladwyd y rhai presennol rhwng 1878 a 1879; ychwanegwyd y sied nwyddau ym 1880; fe'i cysylltwyd a'r hen adeilad nwyddau gan estyniad helaeth ym 1975. Mae cyfleusterau ar gyfer teithwyr yn cynnwys swyddfa ymholiadau a thocynnau, siop, caffi a bar. Yn yr adeilad mae swyddfeydd y cwmni hefyd.

Rhag-orsaf Heritage Railways  Reilffyrdd Cledrau Cul Yr Orsaf Ddilynol
Terminws   Rheilffordd Ffestiniog   Minffordd
Pont Croesor   Rheilffordd Eryri   Terminws
Locomotif Beyer Garratt yng ngorsaf Harbwr Porthmadog

Cyfeiriadau

  • Boyd, James I.C. (1975). The Festiniog Railway 1800 - 1974; Cyfrol. 1 - History and Route. Blandford: Gwasg Oakwood. ISBN 0-8536-1167-X. OCLC 2074549.
  • Boyd, James I.C. (1975). The Festiniog Railway 1800 - 1974; Cyfrol. 2 - Locomotives and Rolling Stock; Quarries and Branches: Rebirth 1954-74. Blandford: Gwasg Oakwood. ISBN 0-8536-1168-8.

Dolenni allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.