Dyfeisiwyd y locomotif Beyer Garratt gan Herbert William Garratt, peiriannydd i lywodraeth De Cymru Newydd ym 1907, ac aeth o i Gwmni Beyer Peacock efo'r syniad. Oherwydd ei waith tramor, ac ei farwolaeth ym 1913, gwnaethpwyd mwyafrif y gwaith datblygu gan gwmni Beyer Peacock[1].
Fel locomotifau cymalog eraill, mae'r Beyer Garratt yn caniatáu lledu pwysau'r locomotif dros llawer o olwynion. Maen nhw wedi bod yn ddefnyddiol ar reilffyrdd ysgafn. Roedd gan y locomifau'r gallu o gario llawer o ddŵr, sydd yn ddefnyddiol yn ardaloedd poeth a sych, megis rhannau Affrica.
Cariwyd y boeler rhwng 2 uned pŵer. Yn annhebyg i gynlluniau cymalog eraill, megis y Locomotif Fairlie a Locomotif Mallet, deodd yno ddim olwynion i gyfyngu maint y boeler a blwch tân, felly roedd hi'n bosibl creu locomotif pŵerus iawn
Cafodd locomotifau dosbarth 59 y Rheilffyrdd Dwyrain Affrica boeler efo tryfesur 7 troedfedd a hanner, yn llawer mwy 'na locomotifau ar reilffyrdd lled safonol yng ngwledydd Prydain. Weithiau cynhaliwyd tân efo peirianwaith mecanyddol neu defnyddiwyd olew. Defnyddiwyd dau neu dro dyn tân ar locomotif dosbarth P y Rheilffordd Bengal-Nagpur. Ar Reilffordd Benguela, llosgwyd coed, ac roedd angen 4 dyn tân.[1]
Hanes cynnar
Archebwyd y 2 Beyer Garratt cyntaf ym 1909 gan lywodraeth Tasmania ar gyfer ei rheilffyrd maint 2 droedfedd. Daeth un ohonynt yn ôl i Ffowndri Gorton ar ôl yr Ail Rhyfel Byd a gwerthwyd yr injan i Reilffordd Ffestiniog ar ôl i'r ffowndri wedi cau.
Adeiladwyd yr un nesaf ar gyfer [[Rheilffordd Darjeeling Himalaya a gweithiodd yno hyd at 1953. Erbyn 1914 prynasid locomotifau gan Gorllewin Awstralia a rheilffyrdd Mogyana a San Paolo yn Brasil.
Newidodd gwaith y ffowndri i gynhyrchiant arfau yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ym 1920, adeiladwyd 3 math o locomotif Garratt ar gyfer leiniau 2 droedfedd Rheilffordd De Affrica.[1].
Locomotifau nodedig
Y locomotif stêm mwyaf yn Ewrop erioedd oedd Beyer Garratt 4-8-2 +2-8-4 adeiladwyd i Rheilffordd Rwsia ym 1932, yn pwyso 262.5 o dunelli.
Adeiladwyd Dosbarth GL ar gyfer Rheilffordd De Affrica lled 3 troedfedd a hanner, yr un mwyaf pwerus yn y byd ar gledrau cul.
Adeiladwyd y Garratts olaf erioed ar gyfer Cwmni Tsumeb ym 1958, ond ar ôl i'r gwmni newid lled ei draciau, aeth y locomotifau i Reilffyrdd De Affrica ar gyfer eu draciau lled 2 droedfedd [1]..
Rheilffordd Eryri
Mae gan Rheilffordd Eryri 5 locomotif dosbarth NGG 2-6-2 + 2-6-2, adeiladwyd ar gyfer rheilffyrdd yn Ne Affrica. Roedd sawl lein o led 2 droedfedd wedi cau, felly cytunwyd basai Rheilffordd Swydd Alfred yn atgyweirio a chyflenwi'r locomotifau. Roedd un ohonynt, rhif 143, yr un olaf adeiladwyd gan gwmni Beyer Peacock.[2].