Prif dref ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Glynebwy,[1] weithiau Glyn Ebwy (Saesneg: Ebbw Vale).
Roedd gan ardal drefol Glynebwy boblogaeth o 33,343 yn ôl amcangyfrif swyddogol cyfrifiad 2020.[2]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]
Datblygiadau ar safle Gwaith Dur Glynebwy
Yn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.[5]
Gŵyl Garddio Genedlaethol Cymru
Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.[6]
Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).
Ffeithiau diddorol
- Crëwyd Pont Porthladd Sydney gyda dur a haearn o weithfeydd dur Glynebwy.[7]
- Crëwyd cledrau sydd ar Reilffordd Stockton and Darlington yng Nglynebwy.[8]
Enwogion
Gwybodaeth eraill
Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[9]
Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol