Chwe Chloch

Chwe Chloch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7147°N 3.1169°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW05000765 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/au y DUNick Smith (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Abertyleri, bwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Chwe Chloch (Saesneg: Six Bells).[1][2] Fe'i lleolir i'r de o dref Abertyleri ger Aber-bîg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[3][4]

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 7.1% o boblogaeth yr ardal yn gallu siarad Cymraeg. Yn ôl pob sgil, mae 170 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 156 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 137 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Roedd 9.4% yn medru'r Gymraeg yn 2001.[5]

Y Gwarchodwr gan Sebastien Boyesen

Damwain yng Nglofa'r Chwe Chloch

Ar 28 Mehefin 1960 cafwyd ffrwydriad a laddodd 45 o weithwyr. Bellach, trowyd y fan yn ardal gelf, i gofio am y rhai a laddwyd. Cynlluniwyd y gwaith gan Sebastian Boyesen. Mae'r gofeb hefyd yn symbol o lowyr eraill a fu farw mewn ffrwydriadau tebyg drwy Dde Cymru.

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
Eginyn erthygl sydd uchod am Flaenau Gwent. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.