Teachta Dála, Leader of Sinn Féin, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 3rd Northern Ireland Assembly, Member of the 2nd Northern Ireland Assembly, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Teachta Dála
Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â Sinn Féin a Fianna Éireann yn 1964. Dechreuodd y llywodraeth Brydeinig garcharu cenedlaetholwyr Gwyddelig heb achos llys yn Awst 1971, ac ym mis Mawrth 1972 carcharwyd Adams. Gollyngwyd ef yn rhydd ym mis Mehefin i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfrinachol yn Llundain, ond ym mis Gorffennaf 1973 carcharwyd ef eto yn Long Kesh.
Yn 1983 etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol â pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar 14 Mawrth1984, clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o aelodau'r UFF ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i Joe Hendron o'r SDLP yn etholiad 1992, ond enillodd hi yn ôl yn 1997.
Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod â phleidiau eraill. Ar ddechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a John Hume, arweinydd y Social Democratic and Labour Party (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, David Trimble, a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar 10 Ebrill1998, arwyddwyd Cytundeb Belffast rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y Democratic Unionist Party (DUP).