Ynghyd â'r Gemau Olympaidd, trefnwyd Gemau Paralympadd yr Haf 2012 gan LOCOG a'r Olympic Delivery Authority (ODA). LOCOG oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r Gemau, tra bod ODA yn delio gyda'r strwythur a'r lleoliadau.
Tocynnau
Roedd galw uchel am y 2.5 miliwn o docynnau a oedd ar gael ar gyfer Gemau Paralympaidd yr Haf 2012; erbyn 22 Awst 2012, roedd 2.3 miliwn wedi eu gwerthu.[4] Yn hanesyddol, yn ystod y Gemau Olympaidd y gwerthwyd y rhan helaeth o'r tocynnau Paralympaidd, ond ar gyfer y gemau rhain roedd 1.4 miliwn o docynnau eisoes wedi eu gwerthu cyn i'r Gemau Olympaidd gychwyn, gan ragori ar y cyfanswm a werthwyd yn Sydney.[5] Roedd cymaint o alw am y tocynnau yr achosodd problemau technegol i'r wefan, a redwyd gan Ticketmaster, a sefydlwyd i werthu'r tocynnau; bu nifer o gwynion gan defnyddwyr y wefan drwy'r cyfryngau cymdeithasol gan bobl oedd yn cael trafferth prynu eu tocynnau ar gyfer y gemau.[6]
Ar 8 Awst 2012, datganodd LOCOG eu bod wedi gwerthu 2.1 miliwn o docynnau Paralympaidd, 600,000 mewn ond mis, gan dorri'r record o 1.8 miliwn o docynnau a werthwyd yn Beijing. Rhoddodd llywydd yr IPC, Philip Craven, longyfarchiadau i Lundain am y gamp, gan nodi ei fod yn addas i fan geni ysbryd y Gemau Paralympaidd werthu cryn gymaint.[5] Roedd llwyddiant Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd a diddordeb gan gefnogwyr y "Blade Runner", Oscar Pistorius y rhedwr o Dde Affrica, a oedd wedi dod yr amputee dwbl cyntaf erioed i gystadlu yn y Gemau Olympaidd, wedi rhoi hwb i'r gwerthiant yn yr wythnosau'n arwain at y Gemau Paralympaidd.[7]
Cododd helynt ynglŷn â'r rheolau seti ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, wedi i ddwy fam anabl gyhuddo'r trefnwyr o fod â pholisiau gwahaniaethol. Honodd un bod aelod o staff LOCOG wedi dweud wrthi y gallai defnyddwyr cadair olwyn yn y Velodrome ond cael un oedolyn gyda hwy, ac na allai blant ddod heb fod oedolyn arall abl yno i ofalu amdanynt. Dywedwyd wrth y fam arall na allent warantu y byddai'n gallu eistedd gyda'i phlant yn ExCeL London. Cychwynwyd deiseb ar Change.org i wella'r hygyrchedd ar gyfer teuluoedd anabl, ac yn fuan iawn casglwyd dros 30,000 o lofnodion. Gwadodd LOCOG fod eu polisiau'n wahaniaethol, gan ddweud y gall rieni anabl ofalu am eu plant mewn ardaloedd seddi cadair olwyn wrth wylio digwyddiadau oedd heb seddi wedi eu cadw, ond na allent eistedd gyda'i gilydd lle'r oedd y seddi ar gadw.[8][9]
Logo
Roedd logo Gemau Paralympaidd yr Haf 2012 yn rhannu cynllun logo'r Gemau Olympaidd.[10] Dyluniwyd gan Wolff Olins, a cyhoeddwyd gyntaf ar 4 Mehefin 2007; mae'n ddehongliad o'r rhif 2012.[11] Defnyddiodd y fersiwn Paralympaidd liwiau gwahanol, gan gyfnewid yr "agitos" Paralympaidd am y Cylchoedd Olympaidd.[12]
Mascot
Mandeville oedd mascot swyddogol Gemau Paralympaidd yr Haf 2012, a dadorchuddwyd ynghyd â'r mascot Olympaidd, Wenlock, ar 19 Mai 2010. Mae'r cymeriadau yn cymryd siap diferau o ddur toddedig o'r gwaith dur yn Bolton, ac mae ganddynt un llygad tebyg i gamera, gan gynrychioli ffocws a'r holl gamerâu a ddefnyddwyd i recordio'r gemau. Derbynir Mandeville ei enw fel anrhydedd i bentref Stoke Mandeville oherwydd ei bwysigrwydd yn hanes y Gemau Paralympaidd. Mae Mandeville hefyd yn gwisgo helmed aeroddynamig â lliwiau coch, gwyrdd a glas y logo Paralympaidd.[13][14]
Cystadlwyd ugain o wahanol chwaraeon yn ystod Gemau Paralympaidd 2012.[27]
Am y tro cyntaf ers 2000, roedd gemau ar gyfer chwaraewyr gyda anabledd meddyliol yn dychwelyd i'r Gemau Paralympaidd; gyda cystadlaethau athletau, nofio a tenis bwrdd.[28][29] Roedd cystadlaethau ar gyfer chwaraewyr gydag anabledd meddyliol wedi cael eu atal dros dro yn dilyn Gemau Paralympaidd yr Haf 2000, er mwyn galluogi'r PPRh i ail-werthuso sut y gallent eu cynnwys, gan y bu helynt yn 2000, pan dwyllodd y tîm pêl-fasged Sbaenaidd, a tynnwyd y fedal aur oddi arnynt, wedi canfod mai dim ond 2 allan o 12 o'r chwaraewyr oedd yn gymwys i gystadlu yn y categori hwnnw.[30]
Dynodir y nifer o gystadlaethau a gynhelir ym mhob chwaraeon yn y cromfachau
Cyhoeddwyd yr amserlen Paralympaidd ar 25 Awst 2011.[31]
Darlledu
Prydain Fawr : Channel 4 a ddarlledodd y Gemau, gyda dros 150 awr o deledu byw ar Channel 4 a More4, a 3 sianel ychwanegol ar Sky (llun safonol a clirlun) ac ar wefan Channel 4. Dyma oedd y darllediad dwysaf o'r Gemau Paralympaidd yn y Deyrnas Unedig erioed.[32][33] Darlledwyd y Gemau Paralympaidd ar y radio gan y BBC, ar sianeli BBC Radio 5 Live a 5 Live Sports Extra.[34]
Awstralia : Australian Broadcasting Corporation a ddarlledodd y Gemau, ar eu sianel digidol, ABC2 yn bennaf. Darlledwyd dros 100 awr o deledu byw gan gynnwys y seremonïau agoriadol a chloi.[35]
Brasil : Rede Globo a Sportv. Sportv a wnaeth y rhan helaeth o'r darlledu, ond darlledodd Globo rhai cystadlaethau'n fyw.[36]
Canada : CTV (Saesneg) a RDS (Ffrangeg). Darlledwyd rhaglenni dyddiol awr o hyd yn dangos uchelbwyntiau'r cystadlu, tra darlledwyd y seremoni agoriadol gan Sportsnet One, TSN2, RDS, a RDS2. Roedd gwasanaeth disgrifiad fideo ar gyfer pobl â diffyg gweledol ar AMI-tv.[37] Four online streams will also provide 580 hours of live coverage.[38]
↑Fiji qualified two athletes, but sprinter Lusiana Rogoimuri was injured in a car accident prior to the Games and had to withdraw. C.f.: "Rogoimuri ruled out of 2012 Paralympics", FijiLive, 23 August 2012
↑PRESIDENT’S NEWSLETTER JULY 2010. International Sports Federation for Persons with Intellectual Disability (Gorffennaf 2010). Adalwyd ar 13 Awst 2012.