Ludwig Guttmann |
---|
|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1899 Toszek, Gwlad Pwyl |
---|
Bu farw | 18 Mawrth 1980 Aylesbury |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, yr Almaen |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | niwrolegydd, llawfeddyg nerfau, meddyg |
---|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Hall of Fame des deutschen Sports, Marchog Faglor |
---|
Niwrolegydd Almaenig oedd Syr Ludwig "Poppa" Guttmann CBE, FRS (3 Gorffennaf 1899 yn Tost, Silesia, yr Almaen – 18 Mawrth 1980), a sefydlodd y Gemau Paralympaidd a cysidrir i fod yn un brif arloeswyr gweithgareddau corfforol ar gyfer pobl gydag anabledd.[1]
Ef oedd un o'r niwrolegwyr mwyaf blaengar yn yr Almaen cyn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd Guttmann yn yr Ysbyty Iddeweg yn Breslau tan 1939, pad orfodwyd i ddianc i Loegr. Ym 1944, gofynnodd y llywodraeth Prydeinig iddo sefydlu Canolfan Anafiadau Sbinol Cnedlaethol yn Stoke Mandeville y tu allan i Lundain, yn Ysbyty Stoke Mandeville. Apwyntwyd yn gyfarwyddwr y ganolfan, a deliodd y swydd hyd 1966. Credodd fod chwaraeon yn ffurf o therapi, gan ei ddefnyddio i adeiladu cryfder corfforol a hunan barch mewn cleifion. Erbyn 1952, roedd Gemau Stoke Mandeville Guttmann ar gyfer yr anabl wedi tyfy i gynnwys 130 o gyfranogwyr rhyngwladol, a parhaodd i dyfu. Gwnaeth argraff ar swyddogion y Gemau Olympaidd a'r gymuned rhyngwladol. Ym 1956, gwobrwywyd Guttmann gyda Chwpan Fearnley, am ei gyfraniad rhagorol i'r ddelfryd Olympaidd. Dechreuodd y Gemau Paralympaidd yn Rhufain ym 1960, a cynhelir hwy yn fuan ar ôl y Gemau Olympaidd ac yn aml yn yr un ddinas. Sefydlodd Guttmann hefyd Gymdeithas Prydeinig Chwaraeon yr Anabl ym 1960.
Derbyniodd Guttmann OBE a CBE yng ngwledydd Prydain a cafodd ei anrhydeddu'n fyd-eang. Ym 1966 cafodd ei wneud yn farchog gan y Frenhines Elisabeth II ac felly daeth yn KBE (Marchog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig).
Cyfeiriadau