Term am ystod eang o chwaraeon ar gyfer pobl â anableddau corfforol yw chwaraeon Paralympaidd. Tra bod nifer o bobl â anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden ar amryw o wahanol lefelau, mae chwaraeon Paralympaidd yn cyfeirio at y cystadlaethau a drefnir fel rhan o'r symudiad Paralympaidd rhyngwladol. Trefnir a rhedir rhain o dan orychwyliaeth y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol a chymdeithasau chwaraeon rhyngwladol eraill.
Hanes
Datblygodd chwaraeon wedi eu trefnu ar gyfer pobl â anableddau allan o raglenni adferiad meddygol. Cyflwynwyd chwaraeon fel rhan o adferiad wedi'r Ail Ryfel Byd, mewn ymateb i anghenion niferoedd mawr o gyn-filwyr a dinasyddion a oedd wedi eu anafu. Esblygodd chwaraeon fel adferiad i ddod yn chwaraeon hamddenol, ac yna i chwaraeon cystadleuol. Arloeswr yr ymdriniaeth yma oedd Ludwig Guttmann o Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr. Ym 1948, tra roedd y Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal yn Llundain, trefnodd gystadleuaeth chwaraeon ar gyfer athletwyr mewn cadeiriau olwyn yn Stoke Mandeville. Dyma oedd tarddiad Gemau Stoke Mandeville, a esblygodd yn ddiweddarach i ddod yn y Gemau Paralympaidd cyfoes.[1]
Categorïau anabledd
Mae'r symudiad yn defnyddio deg categorïau anabledd i'r cystadleuwyr, gan gynnwys wyth categori am anableddau corfforol, un am athletwyr â cholled golwg ac un am anableddau dysgu.