Gŵyl aml-chwaraeon i bobl ifanc Cymru yw Gemau Cymru.[1] Fe'i threfnir gan Urdd Gobaith Cymru mewn cydweithrediad â mudiadau a sefydliadau chwaraeon eraill yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yn flynyddol ac mae'n cynnwys cystadlaethau gymnasteg, athletau, nofio a champau tîm eraill.
Trefniant
Cynehelir y Gemau yng Gwersyll yr Urdd Glan-llyn ac yng Nghaerdydd yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf. Daw'r gemau o dan adran Chwaraeon yr Urdd,[2] a'r Cyfarwyddwr, Gary Lewis.
Mae'r cystadleuwyr yn aros mewn "Pentref Athletwyr" gan fagu profiad tebyg i'r hyn â geir mewn campau mawr byd-eang "fel Gemau'r Gymanwlad".[3]
Mae'r Gemau hefyd yn llwyddo i ddenu cystadleuwyr nad sy'n aelodau o'r Urdd neu, efallai, yn draddodiadol yn dod o ardaloedd lle nad yw'r Urdd a'r Gymraeg yn gryf. Gwelir cystadleuwyr, er enghraifft, o glybiau nofio o ddinasoedd fel Casnewydd.[4] Gan hynny, mae'r Gemau yn ymestyn parth y Gymraeg fel iaith fyw a hefyd profiadau cystadlu pobl ifanc.
Bwydo i Gemau'r Gymanwlad ac Olympaidd
Caiff y digwyddiad a chystadlu ynddi ei gweld fel cam at ddatblygu talentau i gynrychioli timau Cymru yn y Gemau'r Gymanwlad a hefyd o bosib tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd.[5]
Gwelir y Gemau fel rhan o ysgol i ddatblygu talent a magu diddordeb mewn chwaraeon gan gynnwys at Gemau'r Olympaidd fel gwelwyd cyn cynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yn Llundain. Disgwylid oddeutu 1,200 o bobl ifanc i gystadlu yn Gemau Cymru y flwyddyn honno.[6]
Campau
Cynhelir cystadlaethau mewn amrywiaeth o gampau gan gynnwys: