Gaillimh Math dinas , dinas weinyddol yng Ngweriniaeth Iwerddon
Poblogaeth 83,456 Sefydlwyd 1124 Gefeilldref/i Bradford , Amasya,
Seattle ,
Chicago ,
St. Louis ,
An Oriant ,
Aalborg ,
Milwaukee , Waitakere City, Moncton,
Brockton ,
Auckland , Bwrdeistref Aalborg
Daearyddiaeth Sir Contae na Gaillimhe Gwlad Gweriniaeth Iwerddon Arwynebedd 53.43 km² Uwch y môr 25 ±1 metr Cyfesurynnau 53.2729°N 9.0418°W Cod post H91 Gwleidyddiaeth Corff gweithredol office of the Mayor of Galway Corff deddfwriaethol legislative body of Galway City Council Swydd pennaeth y Llywodraeth Maer Galway
Prif ddinas Swydd Gaillimh , gorllewin Iwerddon , yw Gaillimh (Saesneg : Galway ),[ 1] sy'n yr unig ddinas yn nhalaith Connachta . Saif ar lan Bae Gaillimh lle rhed Afon Coirib i'r môr ar ddiwedd ei thaith fer o Loch Coirib , i'r gogledd. Dros y bae i'r gorllewin ceir Oileáin Árann a gysylltir â'r ddinas gan wasanaeth fferi rheolaidd.
Mae'r iaith Wyddeleg yn gymharol gryf yma, o'i chymharu â rhannau eraill o'r wlad. Mae rhannau o'r ddinas yn rhan o Gaeltacht Swydd Gaillimh ac mae'r ddinas ei hun â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht ' ac felly, yn rhoi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.
Ar y cei yn harbwr Galway
Adeiladau a chofadeiladau
Amgueddfa'r Ddinas Gaillimh
Eglwys gadeiriol
Eglwys Sant Niclas
Prifddinas Genedlaethol Iwerddon, Gaillimh
Sgwar Eyre
Taibhdhearc na Gaillimhe (theatr iaith Wyddeleg genedlaethol Iwerddon)
Enwogion
Chwaraeon
Mae'r ddinas yn gartref i dîm rygbi Connacht sy'n chwarae yn y Pro14 .
Cyfeiriadau