Gaelphobal

Gaelphobal
Enghraifft o:sefydliad, Mudiad iaith Edit this on Wikidata
IaithGwyddeleg Edit this on Wikidata
Neuadd Ionad Pobail na Rinne yn Gaeltacht na nDéise

Nod Gaelphobal yw dod â’r holl grwpiau sy’n gweithio ar y broses cynllunio ieithyddol y tu allan i’r Gaeltacht swyddogol ynghyd. Mae cynllunio ieithyddol yn broses sy’n cryfhau ac yn cefnogi’r Wyddeleg mewn cymunedau lleol ac yn cynnwys rhwydweithiau Gwyddeleg, trefi gwasanaeth y Gaeltacht a grwpiau sy’n ymwneud â Chynllun Datblygu’r Wyddeleg (ILDS).[1]

Darparodd Deddf y Gaeltacht 2012 sylfaen ddeddfwriaethol i’r broses cynllunio ieithyddol a dyma’r sail ar gyfer cyflawni’r gwaith yma. Gwneir y gwaith drwy wahanol asiantaethau hyrwyddo'r iaith Wyddeleg.

Parthau Gwyddeleg

Ceir pedwar prif piler i'r ymgyrch i ddiogeli a thyfu'r iaith Wyddeleg yn ei hen gadarnleoedd ac ardaloedd newydd.[2]

Rhwydweithiau Iaith Gwyddeleg

Siop lyfrau canolfan Wyddeleg Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y Falls Road, Belffast. Mae Gorllewin Belffast yn un o'r Rhwydweithiau Iaith Gwyddeleg, a'r unig un tu allan i Weriniaeth Iwerddon

Mae Rhwydwaith Iaith Gwyddeleg (Gwyddeleg: Líonraí Gaeilge; Saesneg: Irish Language Networks) yn faes lle sicrhawyd màs critigol o gefnogaeth gyhoeddus a gwladwriaethol i'r Wyddeleg. Rhoddir cydnabyddiaeth o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012 i rwydweithiau Gwyddeleg unwaith y byddant wedi cytuno ar gynlluniau iaith gyda’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny. Rhaid i'r cynlluniau hyn fodloni'r meini prawf cynllunio ieithyddol er mwyn cael eu cymeradwyo. Dewiswyd pum cymuned: Belfast, Swydd Antrim; Loughrea, Swydd Galway; Carntogher, Swydd Derry; Clondalkin, Swydd Dulyn, ac Ennis, Swydd Clare. Lasiwd y Rhwydweithiau Iaith Wyddeleg yn 2018 yn Croke Park.

Mae ymgyrch gyhoeddus wedi ei chreu i ysbrydoli ac annog cymunedau i ddefnyddio mwy o Wyddeleg bob dydd. ‘Gaeilge le Chéile’ - Tri cham hawdd: Defnyddio Gwyddeleg bob dydd, ym mhobman, gyda phawb.[3]

Yn fras, gellid eu gweld fel bwriad i feithrin parthau trefol y tu allan i'r Gaeltacht, ac heb fod yn gysylltiedig â'r Gaeltach, lle mae cefnogaeth arbennig i'r Wyddeleg.[4]

Ceir pump yn 2024:

Lansiwyd y Rhwydwaith yn 2024 gan y Gweinidog Gwladol dros y Gaeltacht, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol, Thomas Byrne.[5]

Cynllun Datblygu Rhwydwaith yr Iaith Wyddeleg (ILDS)

Mae Cynllun Datblygu Rhwydwaith Gwyddeleg (Gwyddeleg: An Scéim Forbartha Líonraí Gaeilge; Saesneg: Irish Language Network Development Scheme) yn ariannu grwpiau i gyflogi swyddog datblygu’r Wyddeleg ar gyfer ardal i hybu’r Wyddeleg o’i mewn gyda’r gobaith o fynd ymlaen i ymwneud â’r broses cynllunio iaith a chynhyrchu cynllun iaith ar gyfer yr ardal honno, gan dderbyn cydnabyddiaeth yn y pen draw fel rhwydwaith Gwyddeleg. Mewn ffordd, mae'n debyg i swyddog gyda Mentrau Iaith Cymru. Mae'n ffrwyth Deddf y Gaeltacht 2012.

Ardal cynllunio iaith y Gaeltacht

Arwyddbost ar benrhyn An Daingean yn Gaeltacht Corca Dhuibhne

Mae dau ddeg chwech o ardaloedd cynllunio iaith Gaeltacht (Gwyddeleg: Limistéar pleanála teanga Ghaeltachta) wedi’u henwi o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012. Mae’r broses cynllunio iaith yn digwydd ynddynt er mwyn iddynt allu cadw eu statws fel ardaloedd Gaeltacht. Mae dau ddeg chwech o Ardaloedd Cynllunio Iaith y Gaeltacht (Gaeltacht Language Planning Area) wedi’u henwi o dan Ddeddf y Gaeltacht 2012.[6]

Mae Údarás na Gaeltachta yn darparu cefnogaeth a chymorth i ardaloedd cynllunio ieithyddol y Gaeltacht.

Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht

Sgwâr Grattan yn Dún Garbhán, Tref Gwasanaethu Gaeltacht na nDéise

Mae Tref Gwasanaethu'r Gaeltacht (Gwyddeleg: Bailte Seirbhíse Gaeltachta ; Saesneg: Gaeltacht Service Towns) yn dref sydd â phoblogaeth o 1,000 o leiaf sydd wedi’i lleoli o fewn, neu’n agos at, ardal cynllunio iaith yn y Gaeltacht, ac sydd â rôl arwyddocaol o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol, economaidd a hamdden i bobl o fewn yr ardal honno.

Mae cyfanswm o un ar bymtheg o drefi gwasanaethu'r Gaeltacht, tair mewn ardal Gaeltacht a thair ar ddeg y tu allan i'r Gaeltacht. Mae Údarás na Gaeltachta neu Foras na Gaeilge, fel y bo'n briodol, yn gyfrifol am gefnogi sefydliad i baratoi a gweithredu cynlluniau iaith yn nhrefi gwasanaeth y Gaeltacht.[7] Roedd yn rhan o Ddeddf y Gaeltacht 2012.[8]

Trefi Gwasanaethu'r Gaeltacht yw:

Cyfeiriadau

  1. "About Us". GaelPhobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
  2. "About Us". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
  3. "Historical Step for Irish Language Speaking Communities outside of the Gaeltacht". Gwefan Foras Na Gaeilge. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
  4. "Irish Language Networks". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
  5. "Public Sector - Irish Language Network launched by the Minister of State for the Gaeltacht". Gwefan Llywodraeth Iwerddon. 2024. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
  6. "About Us". Gwefan Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.[dolen farw]
  7. "Gaeltacht Service Town". Gaelphobal. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.
  8. "Gaeltacht Act 2012". Irish Statute Book. 2012. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2024.

Dolenni allanol