Gaeltacht Dún na nGall

Gaeltacht Dún na nGall
Enghraifft o:Gaeltacht Edit this on Wikidata
RhanbarthSwydd Donegal Edit this on Wikidata
Map o ardal Na Rosa sy'n rhan o'r Gaeltacht

Ardal Gaeltacht yn Swydd Dún na nGall (Donegal / Tyrconnell) yw Gaeltacht Dún na nGall (Gwyddeleg: Gaeltacht [Chontae] Dhún na nGall neu Gaeltacht Thír Chonaill; Saesneg Donegal Gaeltacht)[1][2]. Mae ganddi boblogaeth o 23,346 [3] (Cyfrifiad 2016) sef 23.4% o gyfanswm poblogaeth y Gaeltacht yn genedlaethol. Mae'r Gaeltacht yn ymestyn o Gleann Cholm Cille (Glencolmcille) yn y de i fyny ar hyd arfordir y gorllewin a thrwy ardal Gaeltacht Láir (canol) Dún na nGall ac i'r gogledd trwy Na Rosa, Gaoth Dobhair, Cloich CHeann Fhaola ac ymlaen i Fanad Head. Mae hefyd yn cynnwys ynysoedd Dún na nGall.[4]

Ystyr yr enw Dún na nGall yw ‘caer yr estron’ ac mae’n cyfeirio at ddiwedd cyrchoedd y Llychlynwyr yn y sir yn yr 8fed a’r 9g. Cyfeirir at yr ardal hefyd fel ‘Tír Chonaill’ ac mae’r enw hwn yn cyfeirio’n hanesyddol at orllewin y sir yn unig. Dyna esbonio'r ddau enw wahanol a arddelir ar y Gaeltacht, gan bod tiroedd yn Gaeltacht yn fras yn cyfateb i Tir Conaill.[5]

Manylion

Mae Gaeltacht Dún na nGall yn cwmpasu ardal o 1,502 km2 (580 milltir sgwâr). Mae hyn yn cynrychioli 26% o gyfanswm arwynebedd tir y Gaeltacht yn genedlaethol. Mae tri phlwyf Na Rosa, Gaoth Dobhair a Cloughaneely yn ffurfio prif ganolfan poblogaeth Gaeltacht Dún na nGall. Mae dros 17,132 o siaradwyr Gwyddeleg, 14,500 mewn ardaloedd lle mae’n cael ei siarad gan 30–100% o’r boblogaeth a 2,500 mewn ardaloedd lle mae’n cael ei siarad gan lai na 30%. Yn 2006 roedd 2,436 o bobl yn cael eu cyflogi'n llawn amser yng nghwmnïau cleient Údarás na Gaeltachta yn Gaeltacht Dún na nGall. Mae'r rhanbarth hwn yn arbennig o boblogaidd ymhlith myfyrwyr tafodiaith Ulster; bob blwyddyn mae miloedd o fyfyrwyr yn ymweld â'r ardal o Ogledd Iwerddon. Mae Dún na nGall yn unigryw ymhlith ardaloedd y Gaeltacht, gan fod ei hacen a'i thafodiaith yn ogleddol eu cymeriad. Mae gan yr iaith lawer o debygrwydd â Gaeleg, rhywbeth nad yw'n wir am dafodieithoedd eraill y Wyddeleg.

Arwyddion Gwyddeleg yn Dungloe, Swydd Dún na nGall

Ardaloedd y Gaeltacht

Arwyddbost yn Gaoth Dobhair

Ceir y Gaeltacht ei gwasgaru dros ardaloedd a phentrefi: Gaoth Dobhair, Cloicheadhaola, ac ar ochr ogleddol An Rosa; Anaghaire, Croithlí, a Rann na Feirste.

  • Gaoth Dobhair (Gweedore) - dyma'r plwyf Gaeltacht fwyaf yn Iwerddon, sy'n gartref i stiwdios rhanbarthol RTÉ Raidió na Gaeltachta. Mae wedi cynhyrchu cerddorion traddodiadol adnabyddus, gan gynnwys y bandiau Altan a Clannad, yn ogystal â’r artist Enya. Mae'r tri wedi recordio cerddoriaeth Wyddeleg.
  • Cloich Cheann Fhaola[6] (Cloughaneely) - ardal yw hon yng ngogledd-orllewin Swydd Dún na nGall. Mae hon yn ardal arfordirol yn bennaf gyda phoblogaeth o dros 4,000 wedi'i chanoli ar drefi An Fál Carrach (Falcarragh) a Gort an Choirce (Gortahork).Gwyddeleg a siaredir fel y brif iaith yma.[7] Ceir ysgol uwchradd o'r enw Pobalscoil Chloich Cheannfhaola yno, gydag ychydig llai na 500 o fyfyrwyr. Mae pentrefi Cloughaneely, Na Rosa (The Rosses) a Gaoth Dobhair, a adnabyddir yn lleol fel "Y Tri Phlwyf"[angen ffynhonnell] yn cynnwys 16,000 o siaradwyr Gwyddeleg. Gyda'i gilydd maent yn ffurfio cymuned gymdeithasol a diwylliannol wahanol i weddill y sir, gyda thref Gaoth Dobhair yn brif ganolfan diwydiant.
  • Na Rosa (The Rosses)[8] - un o'r 'Tri Phlwyf' ac mae ganddi boblogaeth o dros 7,000 wedi'i chanoli ar dref Dungloe, sy'n gweithredu fel canolfan addysgol, siopa a dinesig yr ardal. Wedi'i diffinio gan ffiniau daearegol ar ffurf afonydd, yn ogystal â hanes a defnydd iaith, mae gan yr ardal hunaniaeth nodedig, sy'n wahanol i weddill Swydd Dún na nGall. Gorwedd yr ardal helaeth rhwng plwyf ac ardal Gaoth Dobhair i'r gogledd a thref Glenties i'r de. Mae rhan helaeth o Na Rosa yn y Gaeltacht.
  • an Láir - ardal wedi ei chanoli ar bentref Baile na Finne (Fintown) ac yn ymestyn i'r de i Gleann Colm Cille (Glencolmcille hefyd Glencolumbkille) ac i'r gogledd i Fánaid a Ros Goill (Rosguill).[9] Mae bron i 7,000 o bobl yn byw yn yr ardal a 2,000 o siaradwyr Gwyddeleg dyddiol.[10]

Twristiaeth

Mae'r Wyddeleg yn ogystal â threfi a thirwedd y Gaeltacht yn cael eu hyrwyddo. Ceir Bealach na Gaeltachta (Ffordd y Gaeltachta) sy'n arwain y gyrrwr drwy'r ardal gyda phedair llwybr arbennig.[11]

Tref Wasanaethau'r Gaeltacht

Trefi Letterkenny a Dún na nGall sydd â statws 'Tref Wasanaethu'r Gaeltacht' i'r Gaeltacht wledig. Gydag hynny, mae disgwyl i'r ddinas roi cefnogaeth arbennig ar gyfer darpariaeth yn yr iaith i'w thrigolion a thrigolion y Gaeltacht gyfagos.

Gweler hefyd

  • Gaelphobal - Corff cynllunio iaith trefol tu allan i'r Gaeltacht

Oriel

Cyfeiriadau

  1. udaras.ie Archifwyd 3 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback
  2. "Ceisteanna—Questions. Oral Answers. – Gaeltacht Thír Chonaill". Houses of the Oireachtas. 4 June 1975.
  3. "Donegal". Údarás na Gaeltachta. 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 May 2013.
  4. "Explore Donegal Gaeltacht". Go Visit Donegal. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
  5. "Donegal". Gwefan Údarás na Gaeltachta. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.
  6. Enwau lleoedd (Ceantair Ghaeltachta) ) Gorchymyn 2004. Archifwyd 2014-03-27 yn y Peiriant Wayback
  7. Lleoedd Archifwyd 2005-04-06 yn y Peiriant Wayback
  8. Placenames (Ceantair Ghaeltachta) Order 2004
  9. Placenames (Ceantair Ghaeltachta) Order 2004
  10. "Fintown - Baile na Finne". Donegal on the Net. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-28. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  11. "Bealach na Gaeltachta Discover Donegal". Go Visit Donegal. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2024.

Dolenni allanol