Fred Rogers

Fred Rogers
Ganwyd20 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Latrobe Edit this on Wikidata
Bu farw27 Chwefror 2003 Edit this on Wikidata
Pittsburgh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Dartmouth
  • Coleg Rollins
  • Thiel College
  • Prifysgol Pittsburgh
  • Pittsburgh Theological Seminary
  • Greater Latrobe Senior High School
  • Fanny Edel Falk Laboratory School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, pypedwr, canwr, awdur, cyfansoddwr, addysgwr, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd teledu, diwinydd, actor teledu Edit this on Wikidata
MamNancy Flagg Edit this on Wikidata
PriodJoanne Rogers Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobrau Peabody, Gwobr Emmy 'Daytime', Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Actor a seren deledu o'r Unol Daleithiau oedd Frederick McFeely "Fred" Rogers (20 Mawrth 192827 Chwefror 2003).[1] Roedd yn enwog am greu rhaglenni, eu cyflwyno ac am gyfansoddi cerddoriaeth agoriadol ar gyfer y gyfres plant bach Mister Rogers' Neighborhood (1968–2001).[2]

Rogers, 2002

Cafodd ei hyfforddi i fod yn weinidog yr Efengyl ond nid oedd yn hapus gyda chyfeiriad teledu yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig yr arlwy ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar deledu yn ardal Pittsburgh y cychwynodd ond erbyn 1968 roedd ganddo ei sioe deledu ei hun a darlledwyd hon ar gyfer y wlad gyfan gan American Public Television. Dros y degawdau nesaf daeth Rogers yn eicon gan ei gynulleidfa.[3] Bu hefyd yn flaenllaw yn hybu achosion da yn ymwneud ag addysg pobl ifanc. Ymladdodd yr hawl i gynnwys recordiadau ar drwydded "defnydd teg" er mwyn eu darlledu drachefn a thrachefn ("time shifting") a sefydlodd gefnogaeth y llywodraeth i ddarlledu ar gyfer plant a phobl ifanc.[4]

Cyfeiriadau

  1. "Fred Rogers". IMDb. Cyrchwyd 7 Mawrth 2008.
  2. "Bill Text – 108th Congress (2003–2004) – S.CON.RES.16.ATS". THOMAS. Library of Congress. 5 Mawrth 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2010.
  3. Sostek, Anya (6 Tachwedd 2009). "Mr. Rogers takes rightful place at riverside tribute". Pittsburgh Post-Gazette. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2010.
  4. "Mister Rogers defending PBS to the US Senate". YouTube. Cyrchwyd 6 Medi 2010.