Felicity Dahl |
---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1938 Llandaf |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm |
---|
Tad | Alphonsus D'Abreu |
---|
Mam | Elizabeth Throckmorton |
---|
Priod | Charles Reginald Hugh Crosland, Roald Dahl |
---|
Plant | Camilla Emma Crosland, Charlotte Ann Crosland, Lucy Lorina Crosland |
---|
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
---|
Cynhyrchydd ffilm o yw'r Fonesig Felicity Ann Dahl (ganwyd D'Abreu; 12 Rhagfyr 1938).
Cafodd Felicity D'Abreu ei geni yn Llandaf, yng ngogledd Caerdydd. Dyna oedd hefyd man geni ei darpar ŵr Roald Dahl ym 1916.
Mae hi'n ferch i Pr. Alphonsus D' Abreu a'i wraig Elizabeth Throckmorton (wyres Syr Richard Charles Acton Throckmorton, 10fed Barwnig ) .
Priododd Felicity â Charles Reginald Hugh Crosland ym 1959. Fe wnaethon nhw ysgaru ym 1971. Cyfarfu â'r awdur Roald Dahl tra oedd hi'n gweithio fel dylunydd set ar hysbyseb ar gyfer coffi Maxim gyda gwraig cyntaf Roald Dahl, yr actores Americanaidd Patricia Neal. Priododd Felicity â Roald Dahl ym 1983.[1]
Felicity Dahl oedd cynhyrchydd y ffilm Matilda (1996). Roedd hi'n gynhyrchydd gweithredol y ffilm 2005 Charlie and the Chocolate Factory.
Sefydlodd Felicity Dahl "Sefydliad Roald Dahl" ym 1991 a oedd yn helpu pobl ifanc â phroblemau ymennydd, gwaed a llythrennedd.[2]
Cafodd ei chreu yn Fonesig (DBE) yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin ar gyfer 2024.[3]
Cyfeiriadau