Digrifwr ac actor Cymreig yw Elis James (ganwyd 3 Tachwedd1980) a fagwyd yng Nghaerfyrddin. Yn ddiweddarach aeth i fyw yng Nghaerdydd ac mae nawr yn byw yn Llundain. Mae'n siaradwr Cymraeg ac mae wedi perfformio yn Gymraeg a Saesneg.[1]
Cyn dod yn ddigrifwr proffesiynol, fe gafodd James amryw o swyddi, yn cynnwys gwaith dros dro, gwaith elusennol a gwaith rhan-amser mewn caffi.[3] Esboniodd James yn 2012:
... Fe wnes i waith swyddfa arferol a ro'n i'n ofnadwy am wneud y gwaith—ges i'r sac unwaith am ddiogi, a fydden i yn dweud celwydd yn gyson i ddod mas o drwbl cyn anghofio pa gelwydd ddwedes i ac felly gwneud y sefyllfa'n waeth. Fe wnes i un job dros dro lle o'n i allu gwneud y gwaith mewn hanner awr felly o'n i'n cymryd llyfrau mewn a darllen pan nad oedd y bos yn edrych.[3]
Gyrfa
Comedi
Dechreuodd James ei yrfa comedi yn 2005, ond fe aeth i weithio'n llawn amser fel digrifwr yn 2008.[3][6] Cyn symud i gomedi yn llawn amser, roedd James yn gitarydd i'r band indi/pync o Gaerdydd, Heck, gyda'r canwr blaen Jemma Roper.[7] Recordiodd y band EP a chael eu chwarae ar BBC 6 Music, BBC Radio Wales a sioe Cymru o BBC Introducing, a ddarlledwyd ar Radio 1. Fe wnaethon nhw berfformio yn nosweithiau bandiau newydd trefnwyd gan yr NME.[8]
Yn sioe fyw Chris Corcoran's Committee Meeting o 2009 roedd James yn chwarae cymeriad Rex Jones, hen ofalwr oedd yn ôl-Farcsydd gydag obsesiwn ag iechyd a diogelwch. Cynhaliwyd y sioe, a greuwyd gan y digrifwr Cymreig Chris Corcoran, am dair blynedd yng Nghanolfan Gelfyddydol y Muni. Yn 2014, esboniodd Corcoran: "Fe fydden ni'n ysgrifennu pob sioe o'r dechrau mewn pum diwrnod a'r tro cyntaf fydden ni'n ei berfformio byddai o flaen y gynulleidfa".[9]
Cefnogodd Rhod Gilbert ar daith drwy wledydd Prydain o'i sioe, "Rhod Gilbert and the Award-Winning Mince Pie", yn 2010. Drwy gefnogi Gilbert, cafodd James y profiad o berfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr o dros 1,500 o bobl ac fe ddywedodd yn ddiweddarach ei fod yn teimlo fel "seren bop" pan oedd yn cerdded ar y llwyfan.[5] Perfformiodd James ei sioe "Daytripper" yn Ffrinj Gŵyl Caeredin 2010.[10]
Fe wnaeth James a Corcoran berfformio yn sioe "gorau o" wedi ei seilio ar sioe Chris Corcoran's Committee Meeting, yn cynnwys y sioe radio Social Club FM, yn Ffrinj Gŵyl Caeredin 2012. Fe wnaeth y sioe dderbyn anrhydedd 'Pick of the Fringe' papur y Guardian a arweiniodd at wneud peilot teledu The Committee Meeting ar ôl i gwmni gynhyrchu Tiger Aspect ddangos diddordeb.[9]
Yn 2012, mewn ymateb i gwestiwn yn 2012 yn gofyn a oedd gwahaniaeth rhwng comedi Saesneg a Chymraeg, dywedodd James:
Mae yna wahaniaethau, er yn fach, ond mae'r cyfeiriadau yn amlwg yn wahanol. Ond ddim mor wahanol fel nad yw comediwyr Cymreig yn gallu bod yn llwyddiannus yn Lloegr, a'r ffordd arall rownd. Mae yna ddigonedd o wahaniaeth rhanbarthol yn hiwmor Seisnig. Fe fydden i'n addasu fy neunydd os o'n i yn Aberystwyth i gymharu â Manceinion, ond ddim yn sylweddol.[11]
James oedd cyflwynydd perfformiad Gala Gŵyl Gomedi Machynlleth yng Ngŵyl y Gelli yn Mai 2014. Perfformiodd gyda'i bartner Isy Suttie hefyd, ynghyd a'r comediwyr Henry Paker a Mike Wozniak.[12] Yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth 2015, perfformiodd James sioe newydd Work in Progress yn ogystal â set yn Gymraeg.[13]
Radio
Chwaraeodd James gymeriad Rex Jones yn sioe radio Chris Corcoran's Committee Meeting, Social Club FM, a ddarlledwyd yn wreiddiol yn Awst 2011 ar BBC Radio Wales a redodd am ddwy flynedd.[9][14]
Ar 16 Chwefror 2014, cychwynnodd James sioe radio yn y bore ar XFM, lle mae'n cyd-gyflwyno gyda'r digrifwr John Robins.[15]
Ers 2014, mae James wedi cyd-ysgrifennu a chyd-serennu yn y sioe sgets Here Be Dragons ar BBC Radio Wales. Enillodd y sioe wobr Sony Award (Efydd) yn 2014 am y Comedi Gorau.[16]
Teledu
Cyflwynodd James benodau cynnar o'r sioe gerddoriaeth Bandit ar S4C[17] ac mae wedi ymddangos ar elfennau o'r rhaglen i ddysgwyr Cymraeg, Hwb.[18]
Yn 2013, roedd The Committee Meeting yn rhan o "Comedy Feeds" BBC Three, cyfres o beilotau comedi teledu oedd ar gael ar y BBC iPlayer yn unig.[19] Roedd y peilot yn serennu James a Corcoran, gyda pherfformiwr gwadd Colin Baker. Fe'i darlledwyd ar BBC One Wales yn Awst 2014.[9]
Yn 2014, ymddangosodd James fel Nigel ym mhennod 3 o ail gyfres Crackanory, ar sianel deledu Dave.
Hefyd yn 2014, fe ymddangosodd James ym mheilot "Comedy Feed" Josh, yn serennu Josh Widdicombe. Darlledwyd cyfres lawn, chwe phennod, o Josh ar BBC Three rhwng 11 Tachwedd a 16 Rhagfyr 2015.[20] Comisiynodd BBC Three ail gyfres lawn o Josh, a ryddhawyd ar lein yn Hydref 2016 wedi ei BBC Three newid i fod yn sianel ar lein yn unig yn Chwefror 2016. Mae trydydd cyfres ar y gweill.[21]
Mae James wedi ffilmio prif ran mewn comedi sefyllfa 600 Days i'r BBC, ail-enwyd yn Crims.[22][23] Darlledwyd y comedi ar BBC Three yn gynnar yn 2015.[24]
Yn Medi 2015 perfformiodd ei sioe stand-up llawn cyntaf yn Gymraeg a fe'i recordiwyd i'w ddarlledu ar S4C ar 19 Rhagfyr 2015.[25][26]
Yn Hydref 2017 ymddangosodd mewn cyfres pedwar rhan ar BBC Two Wales lle roedd yn teithio o gwmpas Cymru gyda'r digrifwr Miles Jupp.[27]
Gwobrau ac anrhydeddau
Enillodd James y Comedi Gorau yn Ngwobrau Cenedlaethol Radio Myfyrwyr yn 2006.[28]
Bywyd personol
Mae James yn ddilynwr brwd o bêl-droed ac mae'n cefnogi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Fe esboniodd yn 2010 mae'r peth gwaethaf am fod yn ddigrifwr oedd bod gemau Dinas Abertawe yn cael eu chwarae ar yr un amser a'i sioeau byw. Fe ddywedodd yn 2010 mai eu hoff sêr chwaraeon oedd George Best a Muhammad Ali.[10]
Mae gan James M.A. yn Hanes Cymru.[29] Mae mewn perthynas gyda'r actores, digrifwraig a'r cerddor Isy Suttie.[30] Mae'r cwpl yn byw yn Ne Llundain ac mae ganddynt ferch, ganwyd yn 2014.[31][32]