Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nglynllifon ger Caernarfon rhwng y 4 Mehefin a 9 Mehefin2012 ydy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012. Daeth miloedd o blant ac oedolion ifanc rhwng 4 a 25 oed i gystadlu yn ystod yr wythnos gyda thros 100,000 o bobl yn ymweld a'r maes. Mae Glynllifon yn un o golegau Coleg Meirion Dwyfor.
Lansiwyd ap ffôn yn yr Eisteddfod o'r enw "ap Urdd" - Ap i ymwelwyr yr Eisteddfod sy’n cynnwys gwybodaeth, map, amserlen, bwydlenni a llawer mwy.[1]