Edith Searle Grossmann |
---|
Ganwyd | Edith Howitt Searle 8 Medi 1863 Beechworth |
---|
Bu farw | 27 Chwefror 1931 Auckland |
---|
Man preswyl | Seland Newydd |
---|
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
---|
Alma mater | - Prifysgol Seland Newydd
- Prifysgol Canterbury, Seland Newydd
|
---|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, athro, ymgyrchydd, swffragét |
---|
Priod | Joseph Penfound Grossmann |
---|
Ffeminist o Seland Newydd oedd Edith Searle Grossmann (8 Medi 1863 - 27 Chwefror 1931) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, nofelydd, athro, ymgyrchydd a swffragét.
Magwraeth
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Seland Newydd, Prifysgol Canterbury, Seland Newydd.
Ganwyd Grossmann yn Beechworth, Victoria (Awstralia) yng ngogledd-ddwyrain Awstralia ar 8 Medi 1863, i Mary Ann Beeby a George Smales Searle.[1] Hi oedd y pedwerydd o'u pum plentyn. Roedd rhieni Grossmann yn ffrindiau i rieni Alfred William Howitt, fforiwr a achubodd unig oroeswr alldaith anffodus Robert O'Hara Burke ym 1861. Wrth i Grossmann gael ei geni bron yn union ddwy flynedd ar ôl hyn, fe roesant "Howitt" yn enw canol i'w merch.[2]
Masnachwr gwin yn Awstralia oedd ei thad yn wreiddiol, cyn dod yn olygydd papur newydd. Symudodd y teulu i Melbourne ac yna, ym 1878, i Invercargill, lle daeth Searle yn olygydd papur newydd The Southland Times.[2][3]
Coleg
Astudiodd Grossmann yng Ngholeg Canterbury rhwng 1880 a 1885, ac yn ystod yr amser hwnnw derbyniodd nifer o wobrau ac anrhydeddau, ac roedd hefyd yn fyfyriwr gweithgar a chymdeithasol. Roedd hi wedi derbyn ysgoloriaeth iau i fynd i'r Coleg, ac ym 1882 derbyniodd ysgoloriaeth hŷn hefyd. Yn 1881, enillodd yr ail wobr yng Nghystadleuaeth Traethawd Bowen, ac ym 1882, y wobr gyntaf. Roedd Grossmann hefyd yn aelod o gymdeithas ddadlau'r brifysgol a chymerodd ran mewn dadleuon ar faterion cyfoes fel Mesur Eiddo Merched Priod 1884, ac addysg uwch menywod.[1] Pan gwblhaodd Grossmann ei hastudiaethau, roedd ganddi ddau radd B.A. ac M.A. gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Lladin a Saesneg, ac anrhydeddau trydydd dosbarth mewn gwyddoniaeth wleidyddol.[4]
Yr awdur
Roedd ei gwaith ffeithiol yn amrywio o draethodau ar ddiwinyddiaeth ac athroniaeth i erthyglau ar fudiad y menywod, a darnau o feirniadaeth lenyddol, ac ymddangosodd mewn nifer o gyhoeddiadau, gan gynnwys yr Empire Review a'r Westminster Review.[3] Ysgrifennodd hefyd ffuglen, gan gynnwys barddoniaeth, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Zealandia, a straeon byrion, a gyhoeddwyd yn yr Otago Daily Times.[5]
Anrhydeddau
Cyfeiriadau