Ystyr yr enw GwyddelegDún Chonchúir yw 'Caer Conchuir[n]'. Ym mytholeg Iwerddon roedd Conchuir yn frawd i'r arwr - neu dduw - Oengus (neu Aengus). Mae'r gair dún yn gytras â'r gair Cymraeg 'din[as]' (hen ystyr: 'caer'). Yn ôl traddodiad a gofnodir yn y Lebor Gabála, gyrrwyd goroeswyr y Fir Bolg ar ffo ar ôl iddynt gael eu trechu gan y Tuatha Dé Danann ym mrwydr Mag Tuired. Ymsefydlodd eu brenin, Oengus mac Úmoír, ar ynys Aran yn yr Alban. Ond ceir amrywiad ar y traddodiad mewn cerdd gan y bardd Mac Liac sy'n dweud mai i ynysoedd Arann ac arfordir Connacht yr aeth y Fir Bolg. Yna codwyd dwy gaer fawr gan ddau o feibion Úmoír: cododd Oengus gaer Dún Aengus ar Inis Mór a chododd ei frawd Conchuirn gaer Dún Chonchuir ar yr ynys lai, Inis Meáin (Ynys Fach).[1]
Cyfeiriadau
↑T. F. O'Rahilly, Early Irish History and Mythology (Dulyn, 1946; argraffiad newydd 1999), tt. 144-45.