Bryngaer ar Inis Mór yn Ynysoedd Arann, Iwerddon yw Dún Aengus (hefyd: Dún Oengus). Saif ar ben clogwyn calchfaen yn uchel uwch y môr ar ochr ogleddol Inis Mór, oddi ar arfordir Swydd Galway. Mae'n safle archaeolegol pwysig sydd yng ngofal Oidhreacht Éireann ac mae'n atyniad twristaidd sy'n denu ymwelwyr i Ynysoedd Arann.
Traddodiad
Ystyr yr enw GwyddelegDún Aengus yw 'Caer Aengus'. Arwr neu dduw ym mytholeg Iwerddon yw Oengus (neu Aengus). Mae'r gair dún yn gytras â'r gair Cymraeg 'din[as]' (hen ystyr: 'caer'). Yn ôl traddodiad a gofnodir yn y Lebor Gabála, gyrrwyd goroeswyr y Fir Bolg ar ffo ar ôl iddynt gael eu trechu gan y Tuatha Dé Danann ym mrwydr Mag Tuired. Ymsefydlodd eu brenin, Oengus mac Úmoír, ar ynys Aran yn yr Alban. Ond ceir amrywiad ar y traddodiad mewn cerdd gan y bardd Mac Liac sy'n dweud mai i ynysoedd Arann ac arfordir Connacht yr aeth y Fir Bolg. Yna codwyd dwy gaer fawr gan ddau o feibion Úmoír: cododd Oengus gaer Dún Aengus ar Inis Mór a chododd ei frawd Conchuirn gaer Dún Conchuirn (neu Dún Chonchúir) ar yr ynys lai, Inis Maan.[1]
Archaeoleg
Oherwydd bod y gaer yn sefyll ar graig galchfaen heb fawr o bridd nid yw'n debyg y bydd archaeolegwyr byth yn medru darganfod tystiolaeth fel crochenwaith i'w cynorthwyo i ddyddio'r gaer, ond mae'n debyg y cafodd ei chodi yn Oes yr Haearn.[2]
Amddiffynir y gaer drawiadol hon gan dri mur amddiffynnol consentrig o gerrig mawr. Nid oes mur ar ochr y môr am fod y creigiau mor uchel a syrth, gan godi dros 100 metr yn syth o'r Môr Iwerydd. Ceir cylch o chevaux de frise (cerrig miniog wedi eu gosod yn y tir) hefyd.[3]
Cafwyd sawl cynnig i esbonio'r dewis o le mor anhygrych fel safle'r gaer fawr hon, yn cynnwys "safle Derwyddol", ond mae'n debyg na fydd yn bosibl i ni wybod byth oherwydd natur y safle. Cynigir ei bod yn rheoli'r arfordir rhwng Ynysoedd Arann a'r tir mawr, tua 10 milltir i ffwrdd ar ei bwynt agosaf, a'r mynediad i Fae Galway. Ceir tair caer gynhanesyddol arall, llai eu maint, ar yr ynys yn ogystal.
Cyfeiriadau
↑T. F. O'Rahilly, Early Irish History and Mythology (Dulyn, 1946; argraffiad newydd 1999), tt. 144-45.
↑Barry Raftery, 'The Early Iron Age', yn Irish Archaeology Illustrated gol. Michael Ryan (Dulyn, 1994), tud. 111.