Roedd hen etholaeth Sir Fynwy yn drwm dan ddylanwad dau deulu pwerus: y Morganiaid Tŷ Tredegar a Dugiaid Beaufort Gwlad yr Haf. Parhaodd dylanwad y Morganiaid yn etholaeth De Sir Fynwy. Yn 1885 etholwyd y Cyrnol yr Anrhydeddus Frederick Courtenay Morgan fel AS o 1885 tan 1906 pan ymddeolodd ceisiodd ei fab, Courtenay Morgan, (wedi hynny Barwn Tredegar) i'w olynu ond cafodd ei drechu gan dirfeddiannwr dylanwadol arall y Cyrnol Ivor Herbert o Lanarth. Cadwodd Herbert afael ar yr etholaeth tan 1917 pan ymadawodd i Dŷ'r Arglwyddi. Diddymwyd yr etholaeth flwyddyn yn ddiweddarach.
James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8