Frederick Courtenay Morgan

Frederick Courtenay Morgan
Ganwyd24 Mai 1834 Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1909 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadCharles Morgan Robinson Morgan Edit this on Wikidata
MamRosamund Mundy Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Williamson Edit this on Wikidata
PlantCourtenay Morgan, Is Iarll 1af Tredegar, Frederic Morgan, 5ed Barwn Tredegar, Blanche Morgan, Violet Morgan Edit this on Wikidata

Roedd y Cyrnol Frederick Courtenay Morgan (24 Mai 1834 - 9 Ionawr 1909) yn swyddog milwrol ac yn wleidydd Ceidwadol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaethau Sir Fynwy a De Sir Fynwy[1]

Bywyd personol

Ganwyd Morgan yn Brighton ym 1834 yn drydydd fab i Syr Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar, 3ydd Barwnig a Rosamund Mundy ei wraig. Roedd yn frawd i Charles Rodney Morgan, Godfrey Charles Morgan.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Winchester

Priododd a Charlotte Anne Wilkinson ar 3 Mai 1858 yn Eglwys St George Hanover Square, Llundain, bu iddynt dau fab a dwy ferch:

  • Anrh. Blanche Frances Morgan (10 Chwefror, 1859 - 31 Rhagfyr, 1948
  • Anrh. Violet Morgan (23 Medi, 1860 - 22 Rhagfyr, 1943)
  • Courtenay Charles Evan Morgan, Is-iarll 1af Tredegar (10 Ebrill, 1867 - 3 Mai, 1934)
  • Frederic George Morgan, 5ed Barwn Tredegar (22 Tachwedd, 1873 - 21 Awst, 1954)

Gyrfa

Morgan (y gŵr ifanc efo'i ddwylo yn ei boced) yn y Crimea

Cafodd Morgan gomisiwn yn y Rifle Brigade ym 1853 a bu'n ymladd yn Rhyfel y Crimea ym mrwydrau Alma, Sebastopol, Inkerman a Balaclava. Cafodd ei ddyrchafu'n Is-gapten ym 1854 a Chapten ym 1855. Gadawodd y Fyddin reolaidd ym 1860 gan ymuno ag Ail Fataliwn Reiffl Gwirfoddolwyr Sir Fynwy fel Is-Gyrnol. Ymddiswyddodd ei gomisiwn ym 1873. Yn ddiweddarach bu yn Gyrnol ar Ail Fataliwn Gwirfoddolwyr Cyffinwyr De Cymru.

Gyrfa wleidyddol

Etholwyd Morgan yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1874 a daliodd y sedd hyd ei ddiddymu yn yr ad-drefnu a daeth yn sgil Deddf Ailddosbarthu Seddi 1885. Yn etholiad cyffredinol 1885, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Sir Fynwy gan dal y sedd hyd 1906.

Marwolaeth

Bu farw yn ei gartref Castell Rhiwperra Llanfihangel-y-fedw yn 75 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym Masaleg

Cyfeiriadau

  1. DEATH OF COL F. C. MORGAN Weekly Mail - 16 Ionawr 1909 [1] adalwyd 14 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Charles Octavius Swinnerton Morgan
Aelod Seneddol Sir Fynwy
18741885
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol De Sir Fynwy
18851906
Olynydd:
Ivor Herbert