Ar 11 Gorffennaf 1921, datganwyd cadoediad rhwng yr IRA a llywodraeth Prydain. Roedd cyfanswm o 1,500 o bobl wedi eu lladd. Ym mis Awst, cynhaliwyd uwch-gynhadledd rhwng Éamon de Valera, pennaeth Sinn Féin gan ochr yr Iwerddon a David Lloyd George gan ochr Prydain. Fodd bynnag, penderfynodd de Valera beidio mynychu'r cyfarfod ei hun ac yn hytrach Michael Collins, Arthur Griffith, Robert Barton, Eamon Duggan a George Gavan Duffy, a gyfarfu â Lloyd George, Winston Churchill ac Arglwydd Birkenhead.
Yn gysgod ar y trafodaethau oedd bygythiad y Prydeinwyr y gall rhyfel fwy ail-ddechau pe na bai'r Gwyddelod yn derbyn y telerau. Cafwyd anghytuno hefyd dros y term a statws 'plenipotentwyr' (sef statws y ddirprwyaeth i wneud penderfyniadau yn y fan a'r lle). Roedd y term yn rhoi statws gwladwriaethol i'r Gwyddelod, statws nad oedd Prydain yn barod i'w dderbyn. Yn llygad Prydain, roeddynt yn trafod gydag Aelodau Seneddol unigol ac nid cynrychiolwyr Gweriniaeth sofran.
Roedd Collins yn fwy nag unrhyw un yn ymwybodol nad oedd yr IRA mewn sefyllfa i ennill y rhyfel o'r fath. Prif faen tramgwydd y Gwyddelod oedd tyngu llw i'r Brenin a datgymalu chwe sir o'r wladwriaeth newydd (er, roedd y Cytundeb yn nodi byddai Comisiwn Ffin yn cael ei sefydlu i ddatgan yn derfynol ar yr union setliad yma).
Arwyddwyd y Cytundeb ar 5 Rhagfyr 1921 ac ar 7 Ionawr 1922 cyflwynwyd hi i'r thrafod yn senedd Iwerddon, Dáil Éireann. Derbyniwyd y Cytundeb gan 64 pleidlais o blaid a 57 yn erbyn. Ymddiswyddodd de Valera, a oedd yn ei erbyn ef, ac fe'i disodlwyd gan Arthur Griffith.
Arweiniodd yr adrannau dwys rhwng cefnogwyr a gwrthwynebwyr y cytundeb at Ryfel Cartref Iwerddon a barodd rhwng Mehefin 1922 ac Ebrill 1923 ac a adawodd graith ar wleidyddiaeth y wladwriaeth newydd am ddegawdau i ddod. Yn wir dywedir i Birkenhead nodi Collins wrth iddo arwyddo'r Cytundeb, "Mr Collins, in signing this Treaty I'm signing my political death warrant", gyda Collins yn ateb yn broffwydol, "Lord Birkenhead, I'm signing my actual death warrant."[1]
Honodd Michael Collins yn hwyrach i Lloyd George fygwth y Gwyddelod ar y funud olaf gydag adferiad, "terrible and immediate war"[2] pe na bai'r Cytundeb yn cael ei harwyddo ar unwaith. Ni gofnodwyd hyn yn nhestun memorandwm y Gwyddelod ar ddiwedd y drafodaeth, ond, yn hytrach, fel sylw bersonol gan Lloyd George i Robert Barton. Dadleua nifer mai dim ond nodi realiti a deinameg torri cadoediad filwrol wnaeth Lloyd George.[3] Nododd Barton:
At one time he [Lloyd George] particularly addressed himself to me and said very solemnly that those who were not for peace must take full responsibility for the war that would immediately follow refusal by any Delegate to sign the Articles of Agreement.
Roedd yr holl ynys, mewn egwyddor, yn rhan o Wladwriaeth Rydd Iwerddon (Saorstát Éireann) pan grewyd fel nodwyd yn y Cytundeb ar flwyddyn wedyn, ar 6 Rhagfyr 1922 gan broclamasiwn brenhinol, unwaith byddai'r cyfansoddiad yn cael ei chymeradwyo gan Senedd Dros-dro Iwerddon a Senedd Prydain.[1] Ond mewn gwirionedd,ar 8 Rhagfyr, gwahanodd chwech o siroedd Ulster o'r Wladwriaeth rydd wedi iddynt bleidleisio o'r "Siambrau". [2]???
Prif Bwyntiau'r Cytundeb
Ceir sawl prif bwynt i'r Cytundeb a arwyddwyd [4] gyda rhai'n ddigon di-dramgwydd ac eraill yn arwain at ddechrau Rhyfel Cartref Iwerddon.
Byddin Prydain i ildio o'r rhan fwyaf o Iwerddon.
Iwerddon i ennill hunan-lywodraeth fel rhan yr Ymerodraeth Brydeinig, gan dderbyn Statws Dominiwn fel yr un a gafwyd gan Canada, Newfoundland, Awstralia, Seland Newydd ac Undeb De Affrica.
Fel yn y gwledydd Dominiwn eraill, byddai'r frenhiniaeth Brydeinig dal i fodoli fel Pennaeth Gwladol y Wladwriaeth. Byddai Rhaglaw yn cael ei benodi ar gyfer y Wladwriaeth Rydd a byddai ei Gynrychiolydd yn arfer ei gynrychiolaeth.
Byddai seneddwyr y Wladwriaeth Rydd newydd yn tyngu llw o deyrngarwch i'r Wladwriaeth newydd a hefyd, yn ail ran y llw, i'r Brenin Sior V, ei etifeddion a'i olynwyr yn ôl y gyfraith, yn rhinwedd dinasyddiaeth gyffredin."
Byddai gan Ogledd Iwerddon (a grëwyd yn flaenorol gan gyfraith 1920) yr hawl i dynnu'n ôl o'r Wladwriaeth Rydd yn ystod y mis ar ôl i'r cytundeb ddod i rym.
Pe bai Gogledd Iwerddon yn dewis gadael y Wladwriaeth newydd, byddai Comisiwn y Gororau yn cael ei sefydlu i olrhain y ffin rhwng Gwladwriaeth Rhydd Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Byddai Prydain Fawr, am resymau diogelwch yn parhau i rheoli cyfres o borthladdoedd ar gyfer ei Llynges Frenhinol. Gelwir y porthladdoedd hyn yn "Borthladdoedd y Cytundeb".
Byddai Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn cymryd ei chyfrifoldeb dros dalu rhan o ddyled yr Ymerodraeth.
Byddai'r Cytundeb yn cael statws goruchaf mewn cyfraith Gwyddelig, sef, mewn achos o wrthdaro rhwng y cytundeb a Chyfansoddiad newydd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (a gymeradwywyd yn 1922) y Cytundeb fyddai'n cael blaenoriaeth.
Iwerddon - Fionán Lynch, Diarmuid O'Hegarty, John Smith Chartres, Robert Erskine Childers, awdur nofel The Riddle of the Sands. Roedd yn gyn-swyddog o fewn gweinyddiaeth San Steffan a gweithredodd fel ysgrifennydd i'r ddirprwyaeth Wyddelig.
↑The phrase was also cited as "immediate and terrible war". See: Collins M., "The Path to Freedom Notes by General Michael Collins", August 1922; Collins did not state that the remark was made solely to Barton, implying that the whole Irish delegation had heard it: "The threat of 'immediate and terrible war' did not matter overmuch to me. The position appeared to be then exactly as it appears now. The British would not, I think, have declared terrible and immediate war upon us."