Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021

Dyddiad31 Hydref - 12 Tachwedd 2021
Cyfesurynnau55°51′39″N 4°17′17″W / 55.86085°N 4.28812°W / 55.86085; -4.28812
ArlywyddAlok Sharma
Gwefanhttps://ukcop26.org/it ukcop26.org/, https://ukcop26.org/it/, https://ukcop26.org/it

Mae Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 (neu COP26) yn gynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd sydd yn cael ei gynnal yn Glasgow, yr Alban, y Deyrnas Unedig rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12 2021. Arlywydd y gynhadledd yw'r gwleidydd ceidwadol ac aelod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig Alok Sharma. Yn wreiddiol roedd disgwyl i COP26 ddigwydd yn 2020 ond cafodd ei oedi am flwyddyn oherwydd Pandemig COVID-19.

Mae disgwyl i'r gynhadledd adeiladu ar gytundebau COP21 ym Mharis yn 2017 i gadw codiad tymheredd byd-eang i lai na 1.5°C.[1] Mae'r gwledydd hefyd yn bwriadu cytuno i orffen datgoedwigo erbyn 2030[2] ac i nifer o wledydd cytuno i fod yn sero net carbon erbyn 2050, gydag India yn cytuno i wneud hyn erbyn 2070. [3]

Canolfan SECC yn Glasgow, lleoliad cynhadledd COP26

Er nad oedd Brenhines Elisabeth II neu Arlywydd China Xi Jinping yn bresennol, mae nifer o wleidyddion ac amgylcheddwyr pwysig wedi mynychu. Mae'r rhain yn cynnwys Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson, Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, Prif Weinidog India Narendra Modi, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a David Attenborough. Bu'r ymgyrchydd hinsawdd ifanc Greta Thunberg hefyd yn Glasgow, er nad oedd hi wedi ei gwahodd yn swyddogol i'r gynhadledd.[4]

Cyfeiriadau

  1. "What is a COP?". UN Climate Change Conference (COP26) at the SEC – Glasgow 2021 (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-02.
  2. "COP26: More than 100 countries commit to ending and reversing deforestation by 2030". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Tachwedd 2021.
  3. "India targets net zero carbon emissions by 2070". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Tachwedd 2021.
  4. natalie-chalk (30 Hydref 2021). "Greta Thunberg reveals she's 'not officially invited to COP26' as activist arrives in Glasgow on eve of summit". inews.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Tachwedd 2021.