Goldene Kamera, Gwobr Fritt Ord, Gwobr Rachel Carson, About You Awards, Gwobr Llysgennad Cydwybod, Fellow of the Royal Scottish Geographical Society, Geddes Environment Medal, Gwobr 'Right Livelihood', Honorary doctor of the University of Mons, Gwobr 100 Merch y BBC, Person y Flwyddyn Time, Nature's 10, Human Act Award, Prix Liberté, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, doctor honoris causa of the University of Helsinki
llofnod
Ymgyrchydd amgylcheddol a myfyriwr ysgol Swedaidd yw Greta Ernman Thunberg (Swedish: [²ɡreːta²tʉːnbærj] (gwrando); ganwyd 3 Ionawr2003) sydd wedi ei disgrifio fel model rôl ar gyfer gweithredu gan fyfyrwyr byd-eang.[1][2]
Mae hi'n adnabyddus am ddechrau'r mudiad streic ysgol dros yr hinsawdd ym mis Tachwedd 2018 a dyfwyd yn gyflym iawn ar ôl cynhadledd COP24 yn 2018 (Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig) ym mis Rhagfyr 2018.
Dechreuodd ei protest personol ym mis Awst 2018 gyda'i Skolstrejk för klimatet (streic ysgol dros yr hinsawdd) fel unigolyn yn barhaol tu allan i'r Riksdag, senedd Sweden. Fe dynnodd sylw y wasg yn araf deg.[3]
Ar 15 Mawrth 2019 roedd oddeutu 1.4 miliwn o fyfyrwyr mewn 112 gwlad o gwmpas y byd wedi ymuno â'i galwad i streicio a phrotestio.[4] Roedd y streic hinsawdd nesaf wedi ei gynllunio am 24 Mai 2019.[5]
Ar 13 Mawrth 2019, enwebwyd Thunberg gan dri aelod o Storting, senedd Norwy, am ymgeisydd ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn 2019. Atebodd Thunberg bod hi'n 'freintiedig a diolchgar iawn' am yr enwebiad.[6] Mae Thunberg eisoes wedi derbyn sawl gwobr am ei phrotest.
Effaith ar wleidyddiaeth Cymru
Bu Greta Thunberg yn ysbrydoliaeth ac yn ffigwr adnabyddus ifanc a roddodd cyd-destun i ddatganiadau ar berygl newid hinsawdd. Gan roi wyneb a ffigwr bersonol ar ddadl gall fod yn haniaethol.[7] Ar 24 Ebrill 2019 cyfarfu Gret Thunberg ag aelodau seneddol San Steffan i drafod y bygythiad i'r hinsawdd.[8] Bu ei hymddangosiad hi (ymysg nifer fawr o ffactorau tymor hir a mwy eraill) a'r mudiad y sbardunodd yn rhan o'r drafodaeth ac ysgogiad ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi "Argyfwng Hinsawdd" rhai diwrnodau wedi ei hymweliad â Phrydain.[9] yn dilyn dadl a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y pwnc yn y Cynulliad.