Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî

Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî
Enghraifft o:sefydliad rhanbarthol, sefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu23 Chwefror 2010 Edit this on Wikidata
LleoliadLatin America and the Caribbean Edit this on Wikidata
RhagflaenyddRio Group, Latin American and Caribbean Summit on Integration and Development Edit this on Wikidata
PencadlysCaracas Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://sela.org/celac Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydliad rhyngwladol o genhedloedd America Ladin a'r Caribî yw Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî (Sbaeneg: Comunidad de Estados Latinoamericanos y Caribeños, CELAC, Portiwgaleg: Comunidade de Estados Latino-Americanos e Caribenhos, Ffrangeg: Communauté des États Latino-Américains et Caribéens, Iseldireg: Gemeenschap van de Latijns-Amerikaanse en Caribische landen) a grewyd ar 23 Chwefror 2010 yn Playa del Carmen, Quintana Roo, Mecsico.[1][2] Mae'r gymuned yn cynnwys pob gwlad yn yr Amerig—sef cyfandir Gogledd a De America—ar wahân i Unol Daleithiau America a Chanada. Ni chynhwysir ychwaith gwledydd Ewropeaidd sydd â thiriogaethau yn yr Amerig, e.e. y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Denmarc.

Pwrpas y corff ydy ceisio lleihau dylanwad gwleidyddol yr Unol Daleithiau ar y cyfandir. Mae'n brysur ddisodli Grŵp Rio ac Uwchgynhadledd America Ladin a'r Caribî ar Integreiddio a Datblygu (CALC). Yng Ngorffennaf 2010 etholwyd Arlywydd Feneswela Hugo Chávez ac Arlywydd Tsile Sebastián Piñera ill dau i'r gadair. Ym mis Mehefin 2023, cydnabu CELAC gymeriad America Ladin a Charibïaidd ynys Puerto Rico ac “yn galw ar Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i archwilio cwestiwn Puerto Rico yn ei gyfanrwydd ac yn ei holl agweddau, a rheoli ar y mater hwn cyn gynted ag y bo modd. ag y bo modd”.[1].

Cymuned Gwladwriaethau America Ladin a'r Caribî.
Cyfanswm y Boblogaeth: 591.662 miliwn (2011)
Cyfanswm yr Arwynebedd: 20.438 miliwn km sg
Dwysedd: 28.95/km sg

Gwledydd

Mae CELAC yn cynnwys 33 gwlad gyda 5 iaith wahanol:

18 gwlad sy'n defnyddio Sbaeneg fel prif iaith: (56% o'r arwynebedd, 63% o'r boblogaeth)

12 gwlad sy'n defnyddio Saesneg. (1.3% o'r arwynebedd, 1.1% o'r boblogaeth)

Un wlad sy'n defnyddio Portiwgaleg. (42% o'r arwynebedd, 34% o'r boblogaeth)

Un wlad sy'n defnyddio'r Ffrangeg. (0.1% o'r arwynebedd, 1.6% o'r boblogaeth)

un wlad sy'n defnyddio'r Iseldireg. (0.8% o'r arwynebedd, 0.1% o'r boblogaeth)

Mae 12 o'r gwledydd uchod yn Ne America, ac mae ganddyn nhw arwynebedd 87% o'r boblogaeth a 68% o'r boblogaeth.

Cyfeiriadau