Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yw cymdeithas Gymraeg Prifysgol Rhydychen. Cymdeithas Gymraeg yw hi, yn hytrach na Saesneg fel ei chwaer-gymdeithas, Cymdeithas y Mabinogi yng Nghaergrawnt. HanesSefydlwyd y Gymdeithas yn 1886, sy’n ei gwneud y gymdeithas hynaf ym Mhrifysgol Rhydychen, ar wahân i gymdeithas yr Undeb. Adwaenir ar lafer i’w haelodau fel “Y Dafydd”. Yn y 1990au ymddangosodd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr, sy'n cynnwys erthyglau a gwaith creadigol gan yr aelodau yn bennaf, ond hefyd gan rai o'r siaradwyr gwadd. Ym mysg yr aelodau sylfaenol oedd O. M. Edwards a John Morris-Jones. Derbyniwyd merched yn aelodau yn ystod y flwyddyn academaidd 1966-1967. Cedwir y llyfrau cofnodion yn Llyfrgell Bodley. TraddodiadauEnwyd y Gymdeithas ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, a bu’n draddodiad i bob cyfarfod gychwyn gyda darlleniad o’i waith gan y Caplan, a thrafodaeth arno. ‘Roedd gan y Gymdeithas rhai defodau ffurfiol a swyddi gyda theitlau mawreddog, er mae y bwriadwyd y rhain i fod yn eironig. Erbyn heddiw cadwyd y teitl Caplan ar gyfer y cadeirydd, a chadwyd swydd mawreddog yr Archarogldarthydd. Bu’n draddodiad ar un adeg i aelodau a chyn-aelodau’r gymdeithas gyfarfod yn flynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. ![]() Rhes flaen (chwith i'r dde): G.O. Williams, T.I. Ellis, P. Macaulay Owen, Evan J. Jones, Hywel Davies, Jeremiah Williams, B.B. Thomas,J. Lloyd-Jones, T.J. Rowlands, G.A. Edwards, D. J. Lewis, C. Wynne Griffith, J. Williams-Hughes, Griffith Rees, T.J. Jones Ail res (de i'r chwith): J. Edwards, R.H. Evans, D.J. Davies, J.H. Williams, R.I. Aaron, D. M. Jones, E. Pryce Jones, Dewi W. Powell, H.V. Morris-Jones, H. Williams, M. Elis-Williams, A. Tudno Williams, J.H. Griffith Cefn (chwith i'r dde): Llewelyn Jones, D. J. Williams, T. Meurig Wynne, H. Winter Jones, D.J. Samuel, E. Goronwy Owen, M. Hughes-Thomas, J.E. Davies, H.D. Lewis, G.R. Evans, I. Oswy Davies LlywyddionDyma rai o gyn-Gymrodorion y Brifysgol sydd wedi gwasanaethu, neu sy'n gwasanaethau heddiw fel Llywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas:
Rhai cyn-aelodauY saith aelod gwreiddiol, dan gadeiryddiaeth John Rhŷs:
Aelodau diweddarach:
Llenyddiaeth
Dolenni allanol |