Newyddiadurwr ac awdur o Wyddel oedd Cornelius Ryan (5 Mehefin 1920 – 23 Tachwedd 1974).[1] Roedd yn ohebydd rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn enwog am ei hanesion milwrol o'r rhyfel hwnnw: The Longest Day (1959), am Ddydd D; The Last Battle (1965), am Frwydr Berlin; ac A Bridge Too Far (1974), am Ymgyrch Market Garden.
Llyfryddiaeth
- Star-Spangled Mikado (1946), gyda Franko Kelley
- MacArthur: Man of Action (1950), gyda Franko Kelley
- One Minute to Ditch! (1957)
- The Longest Day: June 6, 1944 D-Day (1959)
- The Last Battle (1966)
- A Bridge Too Far (1974)
- A Private Battle (1979), gyda Kathryn Morgan Ryan
Cyfeiriadau