Grŵp o un-ar-bymtheg elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 16, neu'r grŵp calcogen ac weithiau fe'i gelwir "y grŵp ocsigen". Yr hen enw arnynt oedd grŵp VIB neu VIA. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 16 yn cynnwys: ocsigen (O), swlffwr (S), seleniwm (Se), telwriwm (Te), yr elfen ymbelydrol poloniwm (Po), a'r elfen synthetig ununhecsiwm (Uuh).
Mae ocsigen, swlffwr a soleniwm yn anfetelau a telwriwm a pholoniwm yn feteloid ac ununhecsiwm yn fetel tlawd.
Anaml iawn, fodd bynnag, y disgrifir ocsigen fel aelod o'r teulu hwn.
[1]
Nodweddion
Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn i'w gilydd, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:
Z |
Elfen |
Nifer yr electronnau
|
8 |
ocsigen |
2, 6
|
16 |
swlffwr |
2, 8, 6
|
34 |
seleniwm |
2, 8, 18, 6
|
52 |
telwriwm |
2, 8, 18, 18, 6
|
84 |
poloniwm |
2, 8, 18, 32, 18, 6
|
116 |
ununhecsiwm |
2, 8, 18, 32, 32, 18, 6
|
Anfetelau ydy ocsigen a swlffwr. Metaloid ydy seleniwm, telwriwm a poloniwm; fodd bynnag, yn eu ffurfiau elfennol, gelwir telwriwm a seleniwm yn fetel.
Mae'r calcogennau metalig i'w cael yn naturiol drwy'r byd e.e. mwyn haearn ydy pyreit (FeS2)
Yr enw
Daw'r enw o ddau air Groegaidd: χαλκος (chalkos) sy'n golygu "copr" a γενεσ (genes) sy'n golygu geni neu "creu".[2] Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1930 gan Wilhelm Biltz o Brifysgol Hanover wedi i Werner Fischer fathu'r gair. Yn anffodus dydy aelodau'r grŵp yma ddim yn creu copr; ond maen nhw'n creu mwynau (Saesneg: ore forming). Cysylltwyd y gair Groeg "chalkos" efo unrhyw gerrig a oedd yn cynnwys metel.
Cyfeiriadau