Grŵp pymtheg elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 15 , neu'r grŵp nitrogen . Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 15 yn cynnwys: nitrogen (N) (sy'n anfetel ), ffosfforws (P) (anfetel ), arsenig (As) (meteloid ), antimoni (Sb) (meteloid ), bismwth (Bi) (metel tlawd ) ac ununpentiwm (Uup) (metel tlawd ), mae'n debyg.
Mae IUPAC yn ei alw'n swyddogol efo'r teitl Grŵp 15 . Yr hen enw i'r grŵp oedd "Grŵp VB" a "Grŵp VA".[ 1]
Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn i'w gilydd, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:
Z
Elfen
Nifer yr electronnau
7
nitrogen
2, 5
15
ffosfforws
2, 8, 5
33
arsenig
2, 8, 18, 5
51
antimoni
2, 8, 18, 18, 5
83
bismwth
2, 8, 18, 32, 18, 5
115
ununpentiwm
2, 8, 18, 32, 32, 18, 5
Mae gan bob un o'r elfennau hyn 5 electron yn haen allanol y gragen; 2 electron yn yr isgragen 's' a 3 electron yn yr isgragen 'p', .
Yr elfen bwysicaf, mae'n debyg, yn y teulu hwn o elfennau ydy nitrogen (symbol cemegol N ) sef prif elfen yr aer sydd o'n cwmpas.
Casgliad o rai o'r elfennau o'r grŵp nitrogen.
Cyfeiriadau
↑ Fluck, E. New notations in the periodic table. Pure & App. Chem. 1988 , 60 , tud 431-436.[1]