Portread o Catrin o Ferain, mwy na thebyg gan Adriaen van Cronenburgh, arlunydd o ogledd yr Iseldiroedd. Mae'r benglog yn digwydd yn aml mewn portreadau o'r 16eg ganrif ac yn cynrychioli'r hyn sy'n ein hwynebu ar ddiwedd ein hoes h.y. ein marwoldeb. Cedwir y llun yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd wedi iddo am gyfnod fod yng nghasgliad Hermann Wilhelm Göring
Boneddiges o Gymraes oedd Catrin o Ferain[1] (neu Catrin o'r Berain[2] ac weithiau Catrin Tudur[3]) (1534 – 27 Awst1591). Ei llysenw oedd "Mam Cymru", ac roedd yn ferch ddeallus a phwerus iawn; bu farw yn 56 mlwydd oed. Nid oes cofeb iddi yn unman ac ni nodir ei henw ar garreg ym mynwent Llanefydd lle claddwyd hi.[4]
Roedd Catrin yn adnabyddus fel noddwraig y beirdd. Canodd y bardd Wiliam Cynwal iddi fel 'cannwyll Gwynedd' mewn cwpled sydd bellach yn enwog. Dyma'r cwpled enwog, wedi'i ddilladu mewn orgraff fodern:
Bu farw ar 27 Awst, 1591 ac fe'i claddwyd yn Llanefydd ar y cyntaf o Fedi.
Priodasau a phlant
Yn The Celtic Peoples and Renaissance Europe (Llundain a New York, 1933), mae'r academydd Dr. David Matthew yn egluro sut y gwelir yn ei phedwar priodas y symud araf o'r grefydd Babyddol i'r grefydd Brotestannaidd.[8]
Ei phedwar gŵr:
Syr Siôn Salsbri (neu John Salusbury) o Leweni, Aelod Seneddol tros Sir Ddinbych yn 1545-7
Priododd John Salusbury (neu Siôn Salbri) pan oedd hi'n 22 oed. Roedd ef yn fab i Syr John Salusbury (m. 1578) o Lewenni a galwyd ef yn 'John yr Iengengaf'. Bu farw ym Mai neu Fehefin 1566, wedi priodas o 9 mlynedd.[9] Roedd ganddynt ddau fab: Thomas (g. c. 1564), a John (g. 1567).
Rhisiart Clwch
Marsiandiwr cyfoethog iawn oedd Rhisiart, a sefydlodd y Royal Exchange yn Llundain gyda'i bartner busnes Sir Thomas Gresham.[10] Yn 1567 dychwelodd Rhisiart o Antwerp, lle bu'n gweithio a chododd ddau dŷ: Bachegraig a Phlas Clough. Dyma'r ddau dŷ cyntaf yng Nghymru i gael eu codi allan o frics. Wedi iddo farw, etifeddodd ei fab o'i briodas cyntaf Plas Clough.[11] Cafodd ddwy ferch o'i briodas gyda Chatrin o Ferain: Anne (g. 1568), a briododd Roger Salusbury, a Mary (g. 1569), a briododd William Wynn, Melai.
Wedi chwe mlynedd o briodas gyda Chatrin, bu farw. Mae'n fwy na phosibl iddo gael ei wenwyno gan ei fod yn gwneud gwaith ysbio ar ran Elizabeth I.[10]
Maurice Wynn
Yn dilyn marwoaeth cynamserol Rhisiart, priododd Catrin Maurice Wynn[12] o Wydir, Dyffryn Conwy. Cawsant ddau o blant: Edward, a Jane. Roedd yn Siryf Sir Gaernarfon a phan fu farw, gadwyd Catrin yn un o bobl cyfoethocaf gwledydd Prydain.
Edward Thelwall
Y bedwaredd briodas oedd i Edward Thelwall o Plas-y-ward; ni chawsant blant a bu farw Catrin o flaen Edward. Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward. Ysgrifennodd y bardd Robert Parry, Henllan, (fl. 1540?-1612?), farwnad i Catrin yn dilyn ei marwolaeth.[13]
Plant
Cafodd chwech o blant ac un-deg-chwech o wyrion ac wyresau[3]:
Dyma'r plant o'r 4 priodas:
Credir i'r bardd Saesneg William Shakespeare ysgrifennu soned am ei mab John. Un chwedl leol arall, o ardal Dinbych yw mai Catrin oedd mam William.[14]