Carchar Gwersyll Fron-goch

Carchar Gwersyll Fron-goch
Mathgwersyll crynhoi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.939°N 3.632°W Edit this on Wikidata
Map

Roedd Gwersyll Carchar Fron-goch ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn garchar dros dro ym mhentref Fron-goch ger Y Bala.

Cafodd carcharorion rhyfel Almaenig eu cadw yno yn ystod rhan gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 cafodd yr Almaenwyr eu disodli gan dros 1,800 o wirfoddolwyr yr Irish Republican Brotherhood (yr IRA yn ddiweddarach) yn cynnwys rhai o brif arweinwyr fel Michael Collins.[1]

Carchororion Gwyddeleg, Frongoch

Heddiw nid oes dim o'r hen wersyll ar ôl, mae Ysgol Bro Tryweryn yn sefyll ar safle'r hen wersyll.

Yn 2002 fe godwyd cofeb ar ochr ffordd yr A4212 yn y pentref mewn tair iaith, Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg i nodi hanes y gwersyll.[2]

Cofeb Fron-goch ar ochr ffordd yr A4212

Distylfa Chwisgi

Pentref i'r gogledd o'r Bala yng Ngwynedd yw Fron-goch (hefyd Frongoch), Mae Afon Tryweryn yn rhedeg heibio'r pentref.

Sefydlodd R.J. Lloyd Price, Ystâd Rhiwlas ei Welsh Whisky Distillery Company yn y pentref ym 1887. Nid oedd y cwmni wisgi yn llwyddiant a chynhyrchodd y cwmni ei poteli olaf ym 1903 a chaewyd y ddistyllfa ym 1910.

Defnyddiwyd hen adeilad y ddistyllfa i gadw carcharorion rhyfel Almaeneg ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Ystyriwyd safle Frongoch yn ddelfrydol ar gyfer carchar, rhwyle 'yng nghanol nunlle' yn ôl y fyddin Brydeinig ond yn agos i'r hen lein rheilffordd a oedd yn arfer rhedeg o Riwabon ger Wrecsam i Abermaw ar gyfer cludo'r carcharorion.[1]

Gwrthryfel y Pasg

Datganiad Annibyniaeth Iwerddon, a gyhoeddwyd gan arweinwyr Gwrthryfel y Pasg

Ym Mhasg 1916 cymerodd wrthryfelwyr Gwyddeleg feddiant o nifer o adeiladau mawr o gwmpas canol Dulyn, gyda'r pencadlys ym mhrif Swyddfa'r Post. Darllenwyd Datganiad Annibyniaeth Iwerddon oddi wrth reolaeth Prydain Fawr yn y stryd o flaen Swyddfa'r Post.

Anfonwyd y Fyddin Brydeinig gan lywodraeth Llundian i geisio atal y gwrthryfelwyr. Wedi chwech diwrnod o ymladd, ildiodd y gwrthryfelwyr i'r fyddin. Lladdwyd 64 o'r gwrthryfelwyr yn y brwydro, tra collodd y fyddin Brydeinig 140 wedi eu lladd a 318 wedi ei hanafu. Lladdwyd 17 aelod o'r heddlu a thua 220 o bobl eraill.

Roedd y gwrthryfel wedi ei gynllunio yn bennaf gan yr IRB (Irish Republican Brotherhood, a pharhaodd o ddydd Llun y Pasg 24 Ebrill hyd 30 Ebrill, 1916.

Yn ninas Dulyn yr oedd y rhan fwyaf o'r ymladd, er bod rhywfaint o ymladd mewn rhannau eraill o Iwerddon.

Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith Pádraig Pearse a James Connolly, oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac a saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd Roger Casement, oedd wedi mynd i'r Almaen i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac wedi dychwelyd i Iwerddon mewn cwch ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel.[3]

Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i Fron-goch.

Prifysgol y Chwyldro

Ymhlith carcharorion y gwersyll oedd rhai o brif arweinwyr y gwrthryfel fel Michael Collins, Arthur Griffith, Dick Mulcahy, Tomás MacCurtain, Terence MacSwiney a Seán T. O'Kelly.

Bu'r carchar yn gyfle i'r IRA ddatblygu eu syniadau chwyldroadol, ac awgrymir fod Michael Collins a'i gymrodyr wedi rhoi gwersi mewn ymladd a milwriaeth i'w gyd-garcharorion.

Daethpwyd i adnabod Fron-goch fel "Prifysgol Sinn Féin", neu "Brifysgol y Chwyldro" (ollscoil na réabhlóide) [4] .

Caewyd Llywodraeth Prydain y gwersyll ym 1916 a dychwelwyd y carcharorion i Iwerddon.

Daeth llawer o gyn-garcharorion Fron-goch yn arweinwyr y rhyfel dros annibyniaeth Iwerddon a orfododd Lywodraeth Prydain ildio rheolaeth o 26 o 32 o siroedd Iwerddon wrth i sefydlu Weriniaeth Iwerddon yn wlad annibynnol.

Michael Collins

Michael Collins

Carcharor enwocaf Fron-goch oedd Michael Collins. Pan ddychwelodd i Iwerddon wedi'i gyfnod yn y Gwersyll fu'n un o brif arweinwyr y Gwyddelod yn ystod y rhyfel dros annibyniaeth. Bu'n gyfrifol am sefydlu 'Y Sgwad' - grŵp arfog cudd a laddodd nifer o swyddogion Prydeinig pwysig.[5] Roedd Collins hefyd yn gyfrifol am drefnu grŵp o spiwyr tu mewn i Gastell Dulyn, pencadlys y Prydeinwyr a anfonodd wybodaeth gyfrinachol iddo.[6]

Erbyn 1922 yr oedd y llywodraeth Brydeinig yn barod i drafod telerau heddwch, ac aeth Collins gyda nifer o arweinwyr eraill i Lundain i dafod gyda llywodraeth David Lloyd George.

Cynigiwyd iddynt weriniaeth annibynnol, ar yr amod fod chwech sir yng ngogledd yr ynys yn parhau dan lywodraeth Brydeinig fel Gogledd Iwerddon.

Cytunodd Collins a'r lleill, er ei fod yn gwybod y byddai hyn yn annerbyniol i lawer o Wyddelod a oedd wedi bod yn ymladd dros annibyniaeth. Dywedodd Collins ''Will anyone be satisfied at the bargain? Will anyone? I tell you this; early this morning I signed my death warrant''.[7]

Aeth yn rhyfel cartref rhwng cefnogwyr y cytundeb gyda Llywodraeth Llundain ar un ochr, yn erbyn a'r rhai oedd yn gwrthod ei dderbyn ar yr ochr arall.

Gerllaw Corc ar 22 Awst,1922 yr oedd Collins yn teithio mewn modur pan ymosodwyd arno gan wrthwynebwyr y cytundeb. Tarwyd Collins gan fwled a'i ladd.

Rhestr o rai o'r carcharorion

  • Richard Aungier[8]
  • Denny Barry[9]
  • Joseph Beggs
  • Gerald Boland[9]
  • Michael Brady[10]
  • Patrick Brogan
  • Daniel Brophy
  • Pat Caddell
  • Michael Carolan
  • Joe Clarke
  • Con Collins
  • Michael Collins
  • James Connor
  • W. T. Cosgrave
  • Philip Cosgrave
  • Paddy Daly[9]
  • P. T. Daly
  • Matthias Derham
  • John Devine
  • Henry Dixon[9]
  • Peter Doyle
  • Thomas J Doyle
  • William Doyle
  • Thomas Duff
  • Thomas P. Duke
  • Patrick J. Early
  • Dick Fitzgerald[9]
  • William Ganly
  • Peter Gibbons
  • James Gough
  • Thomas Hand[11]
  • John Hynes
  • Dick Kelly
  • J. Kelly
  • Joseph P. Kelly
  • Matt Kelly
  • Thomas Kelly
  • Edward Lawless
  • Joseph Lawless
  • Bernard McAllister
  • John McCann
  • John MacDonagh[9]
  • James McDonnell
  • Tom McEllistrim
  • Seán McGarry
  • Dick McKee[9]
  • Seán McLoughlin
  • Seán Mac Mahon
  • J. J. McNally
  • Thomas Maxwell
  • Christopher Moran
  • Patrick Moran[9]
  • Peter Moran
  • Richard Mulcahy
  • Fred Murphy
  • James Nowlan
  • Christopher Nugent
  • Seán Nunan[9]
  • J. J. O'Connell
  • James O'Connell
  • Batt O'Connor[9]
  • Joseph O'Connor[9]
  • Patrick O'Keeffe[9]
  • Peter O'Kelly
  • Seán O'Mahony
  • Cathal Ó Murchadha[9]
  • Thomas O'Reilly
  • Liam Ó Rinn
  • Gearóid O'Sullivan
  • Kit Poole
  • John Rafferty
  • James Rickard
  • Séamus Robinson
  • Edward Rooney
  • James Rooney
  • James Ryan[9]
  • P. J. Ryan
  • Thomas Seaver
  • Patrick Sherwin
  • Arthur Shields[9]
  • Edward Stafford
  • Michael Staines[9]
  • Christopher Taylor
  • J. Taylor
  • Thomas Taylor
  • Joseph Thornton
  • Thomas Traynor[9]
  • Bartle Weston
  • Charles Weston
  • Thomas Weston

Rhaglen ddogfen-drama

Yn 2007 cynhyrchwyd rhaglen ddogfen-drama Frongoch – Man Geni’r IRA am hanes y gwersyll. Yn gyd-gynhyrchiad rhwng cwmni teledu Cwmni Da o Gymru a chwmni teledu Gwyddelig Midas. Dangoswyd y rhaglen yn Gymraeg ar S4C ac yn Wyddeleg ar sianel deledu iaith Wyddeleg TG4. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio yn bennaf ar dri charcharor - Michael Collins (actor: Nick Lee), Séamas Ó Maoileóin (actor: Stephen Darcy) a Joe Stanley (gor-ŵyr Joe Stanley, Trevor Stanley, actiodd ran ei hen-dad-cu yn y rhaglen). Mae cymeriadau Cymraeg hefyd yn cael sylw - un ohonyn nhw yw'r Dr David Peters, sef meddyg y gwersyll a fu'n gymeriad canolog yn y ddrama. Y llall yw Joni Roberts - bachgen ifanc fu'n gweithio yn y cantîn yn y gwersyll a ddaeth yn gyfaill i'r Gwyddelod.[12][13]

Llyfryddiaeth

Clawr llyfr hanes Frongoch Y Pair Dadeni gan Lyn Ebenezer
  • Y Pair Dadeni gan Lyn Ebenezer (ISBN 9780863819698)
  • Fron-goch and the birth of the IRA gan Lyn Ebenezer (ISBN 9780863819773)
  • Brennan-Whitmore, W, With the Irish in Frongoch (Dulyn 1918)
  • O'Mahony, Sean, Frongoch University of Revolution (Dulyn1987)
  • Tim Pat Coogan, 1916: The Easter Rising ISBN 0-304-35902-5

Dolenni

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Y Pair Dadeni gan Lyn Ebenezer (ISBN 9780863819698)
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-13. Cyrchwyd 2015-07-15.
  3. Tim Pat Coogan, 1916: The Easter Rising ISBN 0-304-35902-5
  4. "Irish Democrat, 4 October 2002". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-27. Cyrchwyd 2015-07-15.
  5. Bloody Sunday: How Michael Collins's Agents Assassinated Britain's Secret Service in Dublin on Tachwedd 21, 1920 - James Gleeson, Lyons Press, ISBN 978-1592282821
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-23. Cyrchwyd 2015-07-16.
  7. http://todayinirishhistory.com/tag/i-have-signed-my-own-death-warrant/
  8. Fingal fighters were held in Welsh prison camp
  9. 9.00 9.01 9.02 9.03 9.04 9.05 9.06 9.07 9.08 9.09 9.10 9.11 9.12 9.13 9.14 9.15 9.16 "Rhestr o'r Carcharorion", Frongoch
  10. http://www.kilmainhamgaolautographbooks.ie/people/michael-brady/
  11. Maddock, Fergal. "Skerries honour for Irish volunteer Thomas Hand". independent.ie. Cyrchwyd 21 Ionawr 2017.
  12. http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6540000/newsid_6541800/6541871.stm
  13. http://www.s4c.cymru/ffeithiol/c_frongoch.shtml