Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22)

Cell Seán Hogan yn ystod y Rhyfel dros Annibyniaethin

Ffurfiwyd Byddin Weriniaethol Iwerddon (1916–22) (neu Fyddin Gweriniaeth Iwerddon) (Gwyddeleg: ''Óglaigh na hÉireann''[1]; Saesneg: Irish Republican Army neu IRA). Fe'i ffurfiwyd allan o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig (neu'r Irish Volunteers) a sefydlwyd ar 25 Tachwedd 1913. Yn Ebrill 1916 fe lansiwyd Gwrthryfel y Pasg gan y Gwirfoddolwyr.

Adnabyddir Byddin Weriniaethol Iwerddon fel arfer gan y blaenllythrennau Saesneg IRA sef 'the Irish Republican Army'. Roeddent yn cyfrif eu hunain yn fyddin swyddogol Gweriniaeth Iwerddon a sefydlwyd yn 1916 ac yn swyddogol gan y Dáil yn Ionawr 1919. Hwy a ymladdodd Ryfel Annibyniaeth Iwerddon yn erbyn lluoedd arfog y llywodraeth Brydeinig rhwng 1919 a 1921.

Eu harweinydd cyntaf oedd y pencadfridog Michael Collins a garcharwyd am sbel yn Fron-goch ger y Bala. Dywed rhai mai yno, yn y carchar, y lluniwyd y Fyddin Weriniaethol mewn gwirionedd.

Mae rhai'n gwahaniaethu rhwng y Fyddin Weriniaethol cynnar hwn a Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon, (y Provisional IRA) diweddarach. Ond dywed y gweriniaethwr, wrth gwrs, mai yr un grŵp oeddent o'r cychwyn un.

1921

Yn dilyn arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, a ddaeth a'r Rhyfel dros Annibyniaeth i ben, holltwyd yr IRA, gan fod rhai o blaid ac eraill yn erbyn y Cytundeb. Ffurfiodd yr aelodau a oedd o blaid y Cytundeb fudiad newydd o'r enw 'y Fyddin Genedlaethol' a sefydlwyd gan Michael Collins, ond roedd mwyafrif yr aelodau'n erbyn y Cytuneb; daethant at ei gilydd i ffurfio Byddin Weriniaethol Iwerddon (1922–69) (Irish Republican Army), gan lynnu at yr hen enw. Daeth y ddwy fyddin benben â'i gilydd rhwng 1922 a 1923. Ond yr un oedd nod y ddwy fyddin: ffurfio gwladwriaeth hollol annibynnol o Loegr.

Cyfeiriadau

  1. Durney 2004, t. 8.