Byddin Rhyddid CymruEnghraifft o: | sefydliad parafilwrol |
---|
Idioleg | Annibyniaeth i Gymru |
---|
Daeth i ben | 1969 |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1963 |
---|
Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).
Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.
Achos llys
Ym 1969, rhoddwyd naw o arweinyddion y fyddin, Julian Cayo-Evans, Dennis Coslett, William Vernon Davies, Vivian George Davies, Keith Davies (Gethin ab Iestyn) a David Bonnar Thomas[1] David John Underhill, Glyn Rowlands a Tony Lewis[2] ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.
Ar ddechrau'r achos gwrthododd y diffynyddion ufuddhau i'r orchymyn "All Silence", trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Er bod y mwyafrif o'r troseddau honedig cyhuddwyd y diffynyddion o'u cyflawni wedi eu cyflawni, yn ôl y cyhuddwyr, yn Siroedd Caerfyrddin a Meirionydd, cynhaliwyd yr achos traddodi yng Nghaerdydd a'r achos o flaen Llys y Goron yn Abertawe. Gofynnodd John Gower QC ar ran Dai Bonner i'r achos cael ei glywed yn Llys y Goron Caerfyrddin gan awgrymu bod yr awdurdodau wedi dewis Caerdydd ac Abertawe ar gyfer clywed yr achos yn fwriadol, o'r herwydd y tebygolrwydd uwch o gael rheithfarn wrth Gymreig yn y dinasoedd nac yn y trefi Cymraeg, gwrthodwyd y cais. Gwrthododd Cayo a Cosslett pledio, a chofrestrwyd ple o ddieuog ar eu rhan, plediodd y diffynyddion eraill yn ddieuog. Gan fod Cayo a Glyn Rowlands yn dymuno i'r achos cael ei glywed trwy'r Gymraeg, caniatawyd i gyfieithwyr eistedd y tu ôl iddynt i sibrwd cyfieithiad Cymraeg o'r achos yn eu clustiau[3] .
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
- ↑ Charges against alleged Free Wales Army members.Times [London, England] 7 Mar. 1969: 4. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth, 2016. [1]
- ↑ Nine men for trial in Wales army case. Times [London, England] 13 Mar. 1969: 3. The Times Digital Archive. Adalwyd 29 Mawrth 2016.[2]
- ↑ Our South Wales Correspondent. Accused sing the Welsh anthem. Times (London, England) 17 Apr. 1969: 2. The Times Digital Archive. Web. 29 Mar. 2016.[3]